Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban (llun Llywodraeth Agored)
Mae un o’r papurau newydd sy’n gwerthu fwyaf yn yr Alban yn galw am refferendwm newydd ar annibyniaeth ar ôl y bleidlais dros Brexit ddydd Iau.
Dywed y Daily Record nad oes gan Nicola Sturgeon fawr o ddewis ond cynnal pleidlais o’r fath ar ôl i fwyafrif mawr o bobl yr Alban bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae cefnogaeth y Daily Record yn arwyddocaol gan ei fod yn wrthwynebus ar y cyfan i annibyniaeth yn ystod refferendwm 2014.
Y tro hwn, dywed erthygl olygyddol y papur:
“Fe wnaeth llawer ohonom a bleidleisiodd dros aros yn y Deyrnas Unedig ddwy flynedd yn ôl wneud hynny oherwydd bod arnyn nhw eisiau gwrthod cenedlaetholdeb cul a golwg ynysig ar y byd.
“Ond mae canlyniad ddoe yn rhoi darlun newydd o annibyniaeth fel y dewis cadarnhaol ac eangfrydig i’r Alban.
“Y bore yma, ni fu’r Alban a Lloegr erioed ymhellach oddi wrth ei gilydd yn wleidyddol.”
Hwn oedd y papur a gyhoeddodd ‘adduned’ enwog David Cameron, Ed Miliband a Nick Clegg o fwy o bwerau i’r Alban ar ei dudalen flaen ddyddiau cyn y refferendwm yn 2014.
Pennawd ei dudalen flaen heddiw yw ‘EU go, girl’.