(llun: PA)
Cynyddu mae’r pwysau ar y Deyrnas Unedig yn sgil y bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ddydd Iau.

  • Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi caledu eu safiad i orfodi Prydain i adael cyn gynted â phosibl
  • Mae’r asiantaeth graddio credyd Moody’s wedi israddio rhagolygon economaidd Prydain i statws “negyddol”
  • Mae’r Tŷ Gwyn wedi cadarnhau rhybudd Barack Obama y byddai Llundain yn nhu ôl y ciw am unrhyw gytundebau masnach.

Roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi dweud fore ddoe y byddai’n well ganddo pe na bai’r trafodaethau gadael yn cychwyn hyd nes y bydd wedi trosglwyddo grym i’w olynydd ym mis Hydref.

Ond mynnodd llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, neithiwr nad “ysgariad cyfeillgar” yw hyn, gan ychwanegu nad oedd “yn garwriaeth agos prun bynnag”.

“Mae’r Prydeinwyr wedi penderfynu bod arnyn nhw eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd, felly nid yw’n gwneud dim synnwyr i aros gan fis Hydref i geisio trafod telerau eu hymadawiad – hoffwn gychwyn ar unwaith,” meddai.

Mae Moody’s wedi israddio’r rhagolygon ar gyfer economi Prydain gan y bydd Brexit yn arwain at “gyfnod hir o ansicrwydd”, a fydd yn effeithio ar dwf yn y cyfnod canol.

Mae statws newydd Prydain yn Ewrop eisoes yn amlwg – ni fydd David Cameron yn cael mynd i gyfarfod o arweinwyr gwledydd yr Undeb ddydd Mercher i drafod oblygiadau Brexit.

O dan Gytundeb Lisbon, gan Lundain y mae’r hawl i benderfynu pryd i weithredu Erthygl 50, sy’n cychwyn cyfnod trafod o ddwy flynedd.