Mae hanner miliwn o bobl wedi arwyddo deiseb seneddol yn galw am ail refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae hyn dros bum gwaith y nifer sydd ei angen er mwyn i’r mater gael ei godi yn y Senedd.

Dywed y ddeiseb, sydd yn enw William Oliver Healey:
“Galwn ar Lywodraeth Ei Mawrhydi i weithredu rheol y dylai fod refferendwm arall os bydd y bleidlais i Aros neu Adael yn llai na 60% ar droad allan o 75%.”

Yn y refferendwm ddydd Iau, y ganran dros Brexit oedd 51.9%.

Yn y cyfamser mae bron i 100,000 o bobl wedi arwyddo deiseb gan y mudiad change.org yn galw ar Faer Llundain i gyhoeddi annibynniaeth i’r ddinas ac i wneud cais am aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae Llundain yn ddinas ryngwladol, ac mae arnom eisiau aros yn rhan o galon Ewrop,” meddai’r ddeiseb.

“Mae gweddill y wlad yn anghytuno – felly yn pleidleisio yn erbyn ein gilydd ym mhob etholiad, gadewch inni wneud yr ysgariad yn swyddogol a symud i mewn gyda’n ffrindiau ar y cyfandir.

“Mae’r ddeiseb hon yn galw ar y Maer Sadiq Khan i ddatgan Llundain yn annibynnol ac i wneud cais i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd.”