Beauden Barrett - y ddraenen fwya' yn ystlys Cymru (Llun Crysau Duon)
Seland Newydd 46 Cymru 6

Cysur yr ornest yma i Gymru – a’r rhyfeddod – oedd nad oedd y sgor lawer yn fwy.

Y siom oedd fod eu hun ymdrech fawr i sgorio cais wedi i’r hwter gan u wedi gorffen gyda Seland Newydd yn sgubo i lawr y cae ac Israel Dagg yn sgorio.

Roedd y cyfan o’r prawf a’r gyfres yn yr un ennyd honno.

Yr ail hanner

Doedd Cymru ddim yn wedi mynd yn agos at sgorio yn yr ail hanner wrth i’r Crysau Duon droi’r sgriw gyda thri chais a sawl cyfle agos arall.

Y maswr, Beauden Barrett, oedd y ddraenen benna’ yn eu hystlys nhw gyda dau gais, ond ar draws y cae, roedd y Crysau Duon ymhell ar y blaen.

Fe ddaeth y trydydd cais i’r bachwr Dane Coles gydag ychydig tros chwarter awr i fynd ac, wedi hynny, roedd y cyfan ar ben.

Fe geisiodd Cymru ymosod ond heb ennill tir nac ailgylchu’r bel yn gyflym tra bod y Crysau Duon yn bygwth bob tro.

Yr hanner cynta’

Ar ddiwedd yr hanner cynta’, roedd hi’n amlwg fod Cymru bron â cholli gafael ar y gêm ar ôl methu â sgorio yn y munudau ola’ i gau’r bwlch.

Am y tro cynta’ yn y gêmau prawf, roedden nhw ar ei hôl hi ar yr hanner ar ôl gwers arall mewn sgorio clinigol.

Fe gafodd Seland Newydd ddau gais a chic gosb mewn ychydig dros ddeng munud a dod yn agos fwy nag unwaith wedyn.

Stori’r hanner

Fe ddechreuodd pethau’n weddol gyda Chymru’n cael llawer o’r meddiant yn yr 20 munud cynta’ a mynd ar y blaen o 3-0 ac wedyn 6-3 trwy giciau gan Dan Biggar.

Ond wedyn fe ddaeth y ceisiau – y cynta’ gan yr asgellwr Ben Smith yn ei ddinas enedigol yn fuan ar ôl i un o sgrymiau Cymru gael ei chwalu.

Ond roedd y cais hwnnw a’r nesa’n ffrwyth i symudiadau ysgubol i lawr y cae gan yCrysau Duon wrth i Gymru golli meddiant, yn aml trwy gicio blêr.

Israel Dagg, y cefnwr, oedd yn gyfrifol am yr ail symudiad o’r fath, yn rhy gyflym i amddiffyn Cymru, a hynny yn y pen draw’n arwain at gais i’r asgellwr George Moala.

Agos ar y diwedd

Fe ddaeth Cymru’n agos at ailadrodd eu harfer diweddar o sgorio yn niwedd yr hanner cynta’ cyn i’r asgellwr Hallam Amos ollwng y bêl yn agos at y llinell ar ôl cyfnod o bwysau.

Hyd yn oed wedi’r hwter hanner, fe aeth y Crysau Duon amdani eto a bygwth – arwydd o’r hyn allai fod yn yr ail hanner.