Mae Dean Cosker wedi dweud ei bod yn “anrhydedd” cael cyrraedd y garreg filltir o gipio cant o wicedi mewn gemau ugain pelawd i Forgannwg.

Cosker, y troellwr llaw chwith 38 oed, yw’r chwaraewr cyntaf yn hanes Morgannwg i gyrraedd y nod.

Roedd angen dwy wiced arno i gyrraedd y cant cyn y gêm yn erbyn Swydd Surrey heno, ac fe orffennodd yr ornest gyda dwy wiced am 23 oddi ar ei bedair pelawd.

Wiced Zafar Ansari ddaeth gyntaf, wrth i Cosker ei ddal oddi ar ei fowlio’i hun, ac fe ddaeth ei ganfed wiced – a’i ail ar y noson – wrth iddo orfodi Dwayne Bravo – un o sêr y gêm ugain pelawd – i lawr y llain, a’r wicedwr Chris Cooke yn barod i’w stympio.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Cosker ei fod yn “ostyngedig iawn” o gyrraedd y garreg filltir.

“Mae’n anrhydedd o’r mwyaf ac fe ddaeth geiriau caredig gan [brif hyfforddwr Morgannwg] Robert Croft, un wnes i fowlio dipyn gydag e yn ystod fy ngyrfa T20. Dw i mor hapus i gipio’r ddwy wiced ar adeg beryglus.”

Wrth i Forgannwg barhau ar frig y tabl T20, mae Cosker yn awyddus i ganolbwyntio ar un gêm ar y tro.

“Ry’n ni’n chwarae â gwên ar ein hwynebau ac yn amgyffred yr hyn yw T20.

“Mae gan chwaraeon ffordd ryfed o’ch brathu chi ar y pên ôl. Rhaid i chi gadw’ch llygad ar y wobr yn y pen draw.”