Mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi gadael y Blaid Lafur mewn anhrefn wrth i sawl Aelod Seneddol alw am ymddiswyddiad Jeremy Corbyn.

Ac mae Margaret Hodge ac Ann Coffey wedi cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Hefyd mae Peter Mandelson ac aelodau blaenllaw o’r Blaid Lafur wedi galw ar Jeremy Corbyn i roi’r gorau iddi.

Daw hyn yn dilyn adroddiadau fod yna lythyr wedi’i arwyddo gan Aelodau Seneddol, yn galw ar Jeremy Corbyn i ymddiswyddo.

Mae Peter Mandelson yn dadlau fod y refferendwm wedi dangos nad ydi Jeremy Corbyn yn arweinydd abl.

“Yn anffodus, yr hyn dw i’n deimlo trwy gydol yr ymgyrch hon ydi fod Jeremy Corbyn yn methu ei gwneud hi fel arweinydd,” meddai Mandelson.

‘Dim bai fi’

Ond mae Jeremy Corbyn yn beio’r toriadau gan y Llywodraeth Geidwadol am ddieithrio pleidleiswyr a’u troi at Frexit.

“Y negeseuon sydd wedi dod yn ôl o lawer o gymunedau yw eu bod wedi cael hen ddigon ar y toriadau a dadleoliad economaidd, a’u bod yn flin am gael eu bradychu a’u hymylu gan lywodraethau blaenorol, mewn mannau tlawd iawn o’r wlad.”