Mae cynrychiolwyr myfyrwyr yn dweud bod Brexit “drychinebus” i bobol ifanc, ac yn galw am roi’r bleidlais i bobol 16 ac 17 oed yn etholiadau’r dyfodol.

Yn ôl arolwg YouGov wedi’r bleidlais ddoe, roedd hyd at 75% o bobol ifanc rhwng 18 a 24 oed wedi pleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, o gymharu â 39% o bobol dros 65 oed.

Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru bellach wedi dweud bod angen i lywodraethau wneud mwy i gynnwys myfyrwyr a phobol ifanc a’i bod yn “hanfodol” i fyfyrwyr fod wrth wraidd trafodaethau ar adael yr UE.

“Mae hwn yn benderfyniad sydd nid yn unig yn mynd i fod yn eithriadol o negyddol i fyfyrwyr a phobl ifanc yng Nghymru, ond hefyd yn un sydd ag oblygiadau amlwg i Gymru, a hynny ar unwaith – yn bennaf colli’r arian sylweddol rydym yn ei dderbyn gan yr UE,” meddai Beth Button, Llywydd yr Undeb.

“Mae’r arian yma’n cynnal buddsoddiad ac isadeiledd ar draws Cymru, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc a chymunedau sy’n byw mewn tlodi. Mae hwn yn drychineb i’n cenhedlaeth.”

Galw am bleidlais 16

Yn ôl Swyddog Menywod newydd Undeb Myfyrwyr Cymru, mae pobol 16 ac 17 oed yn “iawn” i “deimlo’n ddig” dros eu diffyg pleidlais yn y refferendwm.

“Rhaid i hyn newid,” meddai Ellen Jones.

Dywedodd ei rhagflaenydd, Rosie Inman, nad oedd modd iddi deimlo’n “fwy trist.”

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol bwysig mewn helpu i gryfhau, a chyflwyno, deddfwriaeth allweddol sy’n ymwneud â chydraddoldeb,” meddai.

“Rhaid i fyfyrwyr a phobl ifanc gael eu cynnwys yn y cyd-drafodaethau, er mwyn sicrhau nad yw’r canlyniad hwn yn difetha popeth rydyn ni wedi gweithio drosto.”

Llythyr at y Prif Weinidog

Mae Llywydd Undeb Myfyrwyr Prydain, Megan Dunn, wedi ysgrifennu at David Cameron yn galw arno i “gynnwys lleisiau pobol ifanc” wrth i’r broses o dynnu Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae ‘na nifer o gwestiynau ymarferol y bydd myfyrwyr am gael atebion iddynt,” meddai yn y llythyr.

“Bydd myfyrwyr o’r UE sydd ddim yn dod o’r Deyrnas Unedig sy’n astudio yma, a fydd yn aneglur dros eu dyfodol.

“Hefyd, bydd myfyrwyr y DU, sy’n astudio mewn coleg neu brifysgol mewn gwledydd eraill ledled yr UE am gael gwybod beth fydd y canlyniad yn ei olygu iddyn nhw.”