Nathan Gill
Yn ôl un o wynebau mwyaf adnabyddus yr ymgyrch Vote Leave yng Nghymru, mae Prydain bellach wedi “cael ei gwlad yn ôl” ar ôl pleidleisio i adael yr UE.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad Nathan Gill fod pleidlais gadarn i adael yr Undeb am fod pobol “ddim yn credu” eu bod yn elwa o fod yn rhan ohono.

“Mae’n hollol anhygoel,” meddai am y bleidlais, “mae’n wawr newydd ar Brydain. Mae pobol Prydain, a phobol Cymru wedi siarad.

“Gallwn ni nawr gymryd rheolaeth o le mae ein harian yn cael ei wario, gallwn ni gymryd rheolaeth o’n ffiniau, gallwn ni gymryd rheolaeth o gyfreithiau a phob agwedd ar ein bywyd.

“Gallwn ni sicrhau mai yn y Senedd a San Steffan mae’r cyfreithiau yn cael eu gwneud, ac os nad ydyn ni’n hoffi’r bobol hynny, gallwn eu sacio nhw bob pum mlynedd.”

“Fedrwch chi ddim prynu annibyniaeth”

Ychwanegodd Nathan gill mai “ychydig iawn” o bobol sy’n credu eu bod yn elwa o arian yr Undeb Ewropeaidd, neu “fyddan nhw ddim wedi pleidleisio yn y niferoedd maen nhw wedi”.

“Fedrwch chi ddim prynu rhywbeth mor hanfodol o bwysig ag annibyniaeth a democratiaeth, a dyna beth oedd pobol am gael nôl.”

Fodd bynnag, does “dim” wedi newid eto, a gall y broses o dynnu o’r UE gymryd tua dwy flynedd, meddai.

Addawodd y byddai ffermwyr a’r diwydiant Cymreig yn elwa ar Brexit wrth i drafodaethau ddigwydd ar y cam nesaf ymlaen.

Ond yn ôl Nathan Gill, mae’r camau hynny i’w benderfynu gan y Prif Weinidog “a’r tîm gorau posib o’i gwmpas” i gael y fargen orau y mae’r bobol “bellach ei eisiau”.