Mae cyn-amddiffynnwr Lloegr ac Arsenal a phyndit pêl-droed y BBC yn proffwydo y bydd Cymru yn curo’r gêm fawr yfory.
Fe fydd carfan Chris Coleman yn wynebu Gogledd Iwerddon ym Mharc De Princes, ym Mharis yn ail rownd Pencampwriaeth Ewrop.
Mae Martin Keown yn credu y bydd Cymru yn ennill 2-0.
Bu I Gareth Bale a’r criw blesio’r cyn-chwaraewr rhyngwladol yn y gystadleuaeth hyd yma, fel yr eglurodd yn ei golofn yn The Daily Mail: “Mae Cymru wedi ffynnu yn eu grŵp, pan nad oedd ganddyn nhw ddim byd i’w golli. Ond fe fydd yn ddiddorol sut fyddan nhw yn llwyddo gyda’r pwysau arnyn nhw.
“Nid yn unig y dylen nhw ennill yn gyfforddus, ond gyda’r gystadleuaeth wedi mynd o’u plaid o ran y trywydd yn y rowndiau olaf, maen nhw yn cael eu gweld fel un o’r timau cryfaf yn yr hanner uchaf.”