Mae’r blychau pleidleisio wedi agor yn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd (UE).

Fe agorodd y blychau pleidleisio am 7yb ac mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi yn ystod oriau man y bore ma.

Mae dwy ochr yr ymgyrch wedi bod yn gwrthdaro ers misoedd a daeth y ddadl i ben nos Fercher wrth i wleidyddion deithio ar draws y wlad i geisio darbwyllo pleidleiswyr sydd eto heb benderfynu a ddylai’r DU aros neu adael yr UE.

Mae’r ymgyrch dros aros, sy’n cael ei arwain gan David Cameron, wedi pwysleisio bod y DU yn “yn gryfach, yn fwy diogel ac yn well ei byd” o fewn yr UE.

Mae’r Prif Weinidog ac ymgyrchwyr Remain ar draws y sbectrwm gwleidyddol wedi pwysleisio’r effaith andwyol ar yr economi yn sgil pleidlais Brexit, a’r pryderon y gallai gael effaith ar y marchnadoedd ariannol ac arwain at ddirwasgiad arall.

Ond mae ymgyrchwyr sydd o blaid gadael yr UE, sy’n cael eu harwain gan gyn-Faer Llundain Boris Johnson, yn annog pleidleiswyr “i gymryd rheolaeth o’r wlad yn ôl”.

Maen nhw’n credu y byddai gadael Brwsel yn rhoi rhagor o arian i’r DU i wario ar y Gwasanaeth Iechyd yn ogystal â’r gallu i reoli ffiniau Prydain a lefelau mewnfudo.

Cymru

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud y byddai hi’n bosibl o hyd i Gymru ddelio’n uniongyrchol â Brwsel, hyd yn oed pe bai Prydain yn penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Ta beth yw’r canlyniad yng Nghymru, os yw pobol Cymru’n pleidleisio i adael neu aros, os yw Prydain Fawr yn dweud eu bod nhw eisiau gadael, bydd dal rhaid sicrhau bod dêl dda i Gymru.

“Os yw pobol Cymru’n dweud eu bod nhw moyn gadael, fy jobyn i fydd siarad ag Ewrop er mwyn sicrhau bo ni’n cael y ddêl orau i Gymru.”

Yr Alban

Mae ’na ddarogan y gallai’r canlyniad arwain at ail refferendwm ar annibyniaeth yr Alban.

Yn 2014 roedd pleidleiswyr yn yr Alban wedi penderfynu o 55% o’r bleidlais i 45% i aros yn rhan o’r DU.

Ond mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi rhybuddio’n gyson y gallai ail refferendwm gael ei gynnal os yw’r Alban yn cael ei “llusgo” o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ei hewyllys, petai’r DU gyfan yn pleidleisio o blaid Brexit.

Tra bod disgwyl i bobl yr Alban bleidleisio dros aros yn rhan o’r UE, mae darlun yng ngweddill y DU yn llai amlwg.

Mae Nicola Sturgeon wedi dweud y gallai’r Alban “gael effaith fawr ar y bleidlais derfynol” gyda phleidleiswyr yno o bosib yn cadw’r DU yn yr Undeb Ewropeaidd.

Ond fe ddatgelodd bod swyddogion Llywodraeth yr Alban eisoes wedi bod yn ystyried cynlluniau i fynd i’r afael a chanlyniad dros adael Ewrop.

Mae arweinwyr y pedair plaid yn Holyrood – Ruth Davidson o’r Ceidwadwyr, Kezia Dugdale o’r Blaid Lafur, y Democrat Rhyddfrydol Willie Rennie a Patrick Harvie o Blaid Werdd yr Alban – wedi bod yn ymgyrchu dros aros yn Ewrop.

Ond mae arweinydd Ukip yn yr Alban David Coburn ASE yn credu y gallai mwyafrif pobl yr Alban bleidleisio dros adael yr UE.