David Cameron (Llun o'i dudalen Facebook)
Mae David Cameron wedi apelio ar bobl i ystyried y genhedlaeth nesaf wrth bleidleisio yn y refferendwm ar ddyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Fe rybuddiodd y Prif Weinidog y byddai Brexit yn peryglu ein heconomi am flynyddoedd i ddod, gan effeithio swyddi a chyfleoedd gwaith.
“Mae’r rhain yn risgiau i’n teuluoedd ac ni ddylwn ni eu cymryd,” meddai.
Dywedodd mai “cenedlaethau’r dyfodol” a fyddai’n cael eu heffeithio waethaf, wrth iddo wneud apêl y tu allan i Rif 10 Downing Street.
Mae arolygon barn wedi awgrymu bod pleidleiswyr hyn yn fwy tebygol o gefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae David Cameron wedi apelio’n uniongyrchol arnyn nhw.
‘Meddyliwch am ddyheadau eich plant’
“Rwy’n gwybod nad ydy Ewrop yn berffaith, credwch fi rwy’n deall y rhwystredigaethau yna. Rwy’n eu teimlo fy hun.
“Dyna pam wnaethon ni ddiwygio ac ehangu ein statws arbennig – cadw allan o’r ewro, cadw ein ffiniau… Mae gennym y gorau o’r ddau fyd.
“Felly wrth i chi gymryd y penderfyniad yma, un ai i aros neu adael, meddyliwch am obeithion a dyheadau eich plant a’ch wyrion.
“Maen nhw’n gwybod bod eu cyfleoedd i weithio, i deithio ac i gael y math o gymdeithas agored a llwyddiannus maen nhw eisiau byw ynddi yn dibynnu ar y canlyniad yma.”
Ychwanegodd bod pleidlais dros adael yr UE yn ddi-droi’n-ôl ac yn golygu “gadael Ewrop am byth.”
‘Wedi colli’r ddadl’
Ond dywedodd cyn-ymgynghorydd polisi David Cameron, Steve Hilton, wrth y BBC bod datganiad y Prif Weinidog yn “gyfaddefiad eu bod wedi colli’r ddadl economaidd, ac maen nhw wedi colli’r ddadl ynglŷn â mewnfudwyr.”
Ychwanegodd nad oedd “dim byd newydd” yn yr hyn a ddywedodd David Cameron.
Yn ôl Steve Hilton roedd y Prif Weinidog wedi cael gwybod pedair blynedd yn ôl y byddai’n “amhosib” i’r Llywodraeth gwrdd â’i haddewidion ynglŷn â mewnfudo petai’r DU yn parhau yn aelod o’r UE.
Mae David Cameron wedi rhoi addewid i ostwng nifer y mewnfudwyr i lai na 100,000 ond fis diwethaf roedd y ffigwr wedi cyrraedd 333,000.