Lynford Brewster (Llun: Heddlu'r De)
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau heddiw bod ail ddyn wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn o Gaerdydd yn gynharach y mis hwn.
Mae disgwyl i Robert Lainsbury, 22 oed, ac yn wreiddiol o Kidderminster, ymddangos o flaen Llys Ynadon Caerdydd y prynhawn yma.
Bu farw Lynford Brewster, 29 oed, o’i anafiadau ar ôl cael ei drywanu ar ddydd Sul, Mehefin 12, yn dilyn digwyddiad yn Brynfedw, Llanedern tua 7yh.
Ymddangosodd Dwayne Edgar, 29 oed o Lanedern o flaen Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ac mae’n parhau yn y ddalfa tan y bydd gwrandawiad pellach ar Orffennaf 7.
Mae dau ddyn arall o Gaerdydd, 19 a 35 oed, a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Heddlu’n awyddus i holi dyn arall
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i’r achos wedi cyhoeddi manylion dyn arall heddiw y maen nhw am ei holi, sef Jake Whelan 23 oed.
Yn ôl y Prif Dditectif Arolygydd, Ceri Hughes, mae Jake Whelan “yn wreiddiol o Kidderminster ond mae’n debyg bod ganddo gysylltiadau yng Nghaerdydd a de ddwyrain Cymru yn ehangach.”
Mae Heddlu De Cymru wedi galw ar Jake Whelan i gysylltu â’r heddlu, neu i unrhyw un sydd â gwybodaeth amdano i gysylltu drwy ffonio 101 neu Daclo’r Taclau drwy ddyfynnu’r cyfeirnod *218368.
Mae teulu Lynford Brewster yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion cyswllt ac maen nhw wedi’u hysbysu am y diweddariadau heddiw.