Jo Cox AS (Llun: Yui Mok/PA)
Mae gŵr gweddw’r Aelod Seneddol Llafur Jo Cox wedi diolch i’r cyhoeddi am eu “haelioni anhygoel” wrth i gronfa gafodd ei sefydlu er cof amdani gyrraedd £1 miliwn.

Daeth neges Brendan Cox ar ôl i deyrngedau gael eu rhoi i’w wraig yn Nhŷ’r Cyffredin wrth i wleidyddion o bob plaid ymuno i gofio’r AS a gafodd ei saethu a’i thrywanu yn ei hetholaeth yn Batley a Spen yn Swydd Efrog ddydd Iau diwethaf.

Roedd cyfeillion Jo Cox wedi dechrau’r dudalen Go Fund Me er cof am yr AS ac roedd wedi casglu mwy na £1 miliwn toc cyn 8.30yh nos Lun ar ôl i fwy na 30,500 o bobl gyfrannu at y gronfa.

Fe fydd yr arian yn cael ei rannu rhwng tair elusen a oedd yn agos at galon Jo Cox.