Mae cynghorwyr Wrecsam yn cyfarfod heddiw i drafod adroddiad sy’n argymell ffyrdd i fynd i’r afael a “chynnydd” yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r adroddiad yn argymell y dylid creu Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) yng nghanol y dref.
Mae gorchymyn PSPO yn rhoi’r hawl i swyddogion yr heddlu symud pobol sy’n ymddwyn yn amhriodol neu gyflwyno dirwy o £100 iddynt.
Yn ôl yr adroddiad, cafodd 300 o achosion eu hadrodd i’r heddlu yn ystod y 12 mis diwethaf yn ymwneud ag ymladd, alcohol, cyffuriau ac amharu ar bobol a busnesau lleol.
‘Effaith niweidiol’
Mae’n nodi: “Dros y blynyddoedd, mae’r dref wedi bod yn destun ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi cael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y rheiny sy’n ymweld, byw ac yn gweithio yn yr ardal.”
Mae disgwyl i Gynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam drafod y posibilrwydd o gyflwyno PSPO i’r dref heddiw, gan hefyd benderfynu ar ffiniau’r gorchymyn.
Yn ogystal, mae ymgynghoriad cyhoeddus am y PSPO yn parhau tan Fehefin 28.