Cafodd y we ei defnyddio gan droseddwyr i gyflawni bron i 300 o droseddau rhyw yn erbyn plant yng Nghymru’r llynedd, yn ôl ffigurau a ddaeth i law NSPCC Cymru yn dilyn Cais Rhyddid Gwybodaeth.
Roedd y troseddau a gafodd eu hadrodd i heddluoedd Cymru yn cynnwys achosion o dreisio, ymosodiadau rhywiol a meithrin perthynas amhriodol â phlant.
Dyma’r tro cyntaf y mae’r heddlu wedi gorfod cofnodi’r we fel ffactor ynghylch troseddau rhyw yn erbyn plant.
O’r 296 o droseddau a gafodd eu cofnodi’r llynedd, roedd 21 o’r dioddefwyr yn blant dan 10 oed, gyda’r ieuengaf yn chwech oed.
Yng Nghymru a Lloegr, cafodd 3,186 o droseddau rhyw yn erbyn plant eu cofnodi gan 38 o heddluoedd rhwng 2015 a 2016.
116 o achosion yn Nyfed Powys
Yn ôl yr elusen, roedd amrywiaeth mawr yn nifer y troseddau a gafodd eu cofnodi rhwng pob heddlu.
Cafwyd 116 eu cofnodi o fewn Heddlu Dyfed Powys, 95 gan Heddlu Gogledd Cymru, 59 yng Ngwent a 26 yn Ne Cymru.
Fe wnaeth Heddlu’r Gogledd gofnodi tri achos o dreisio oedd yn cynnwys y we – yn erbyn dau fachgen 13 ac 16 oed a merch dan 13 oed.
Galw am gynllun
Mae’r NSPCC am i heddluoedd sicrhau bod eu swyddogion yn deall y modd mae troseddwyr rhyw yn defnyddio’r we i gyflawni troseddau yn erbyn plant.
Mae’r elusen hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu ar ddiogelwch plant, i sicrhau bod Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i gadw plant yn ddiogel ar-lein.
Yn ôl yr NSPCC, mae angen addysg orfodol ar blant i’w dysgu sut i gadw’n ddiogel, ynghyd â chanllawiau digonol ar “secstio” a’r gyfraith.
Ffigurau’n “cadarnhau pryderon”
Dywedodd Pennaeth NSPCC Cymru, Des Mannion, fod y ffigurau diweddaraf yn codi “pryder ofnadwy” ac yn dangos mor “gyffredin” yw achosion o gam-drin plant ar y we.
“Mae nifer yr achosion yn cadarnhau ein pryderon bod y byd digidol yn chwarae rôl sylweddol yn achosion rhyw yn erbyn plant,” meddai.
“Mae’n glir bod nifer fawr o ymosodiadau rhyw, ac mewn rhai achosion o dreisio, wedi cynnwys y we – er enghraifft i fagu perthynas amhriodol â phlant cyn eu cam-drin oddi ar y we.
“Rydym yn gwybod bod y math hwn o fagu perthynas ar gynnydd achos bod mwy o blant yn dweud wrth ein gwasanaeth ChildLine eu bod yn cael eu targedu ar-lein.”