Mick Antoniw AC
Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad ddewis Cwnsler Cyffredinol ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ystod eu Cyfarfod Llawn heddiw.
Mae’n rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gael ei benodi gan y Frenhines yn dilyn argymhelliad gan y Prif Weinidog, ac mae Carwyn Jones wedi cynnig enw Aelod Cynulliad Llafur Pontypridd, Mick Antoniw.
Cyn ei ethol yn Aelod Cynulliad yn 2011, bu Mick Antoniw yn bartner mewn cwmni cyfreithiol undebau llafur, sef Thompsons.
Cynrychioli’r Llywodraeth yn y llysoedd
Yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol, mae’r Cwnsler Cyffredinol yn cael ei drin yr un fath â Gweinidogion Cymru yn ystod trafodion y Cynulliad.
Er hyn, nid oes rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol fod yn Aelod Cynulliad, ac nid oedd y Cwnsler Cyffredinol diwethaf, Theodore Huckle QC, yn Aelod Cynulliad felly nid oedd hawl ganddo bleidleisio.
Gwaith y Cwnsler Cyffredinol yw gweithredu fel cynghorydd cyfreithiol fydd yn cynrychioli’r Llywodraeth yn y llysoedd, ac mae’n cyfateb i rôl y Twrnai Cyffredinol a’r Cyfreithiwr Cyffredinol yn Llywodraeth San Steffan.