David Cameron a Jeremy Corbyn yn mynd i wasanaeth coffa Jo Cox (Llun: Nick Ansell/PA Wire)
Mae gwleidyddion wedi ymgynnull yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma mewn “tristwch torcalonnus” i dalu teyrnged i’r Aelod Seneddol Llafur Jo Cox.
Dywedodd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow bod y modd y cafodd ei lladd wedi bod yn “sioc ac yn ffiaidd.”
Cafodd rhosyn gwyn ei roi yn lle arferol Jo Cox ar feinciau Llafur tra bod ASau o bob plaid yn gwisgo rhosyn er cof amdani.
Roedd nifer o’i chydweithwyr Llafur, gan gynnwys Stephen Kinnock, Heidi Alexander, a Carolyn Harris, ac ASau Ceidwadol yn eu dagrau cyn i John Bercow ddechrau’r teyrngedau.
Cafodd ASau eu galw yn ôl i’r Dy’r Cyffredin er mwyn rhoi teyrngedau i Jo Cox a fu farw ar ôl cael ei saethu a’i thrywanu ar y stryd yn ei hetholaeth yn Batley a Spen yng ngorllewin Swydd Efrog.
‘Ymgyrchydd diflino’
Wrth agor y sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin dywedodd John Bercow: “Rydym yn cwrdd heddiw mewn tristwch torcalonnus ond hefyd mewn undod.
“Mae unrhyw farwolaeth mewn amgylchiadau mor ofnadwy yn warth ac yn drasiedi.
“Ond mae’r farwolaeth yma, yn y modd yma, o’r person yma, ein cydweithiwr etholedig Jo Cox, yn arbennig o ffiaidd ac yn sioc.”
Cafodd ei disgrifio fel person “gofalgar, huawdl, egwyddorol a doeth” a oedd yn cael ei hysgogi gan ei “chariad at ddynoliaeth” gan “ymgyrchu’n ddiflino dros gydraddoldeb, hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.”
‘Dyngarwch rhyfeddol’
Dywedodd arweinydd Llafur Jeremy Corbyn bod “ein cymdeithas wedi colli un o’i goreuon.”
“Fe dreuliodd ei bywyd yn gwasanaethu ac yn ymgyrchu dros bobl eraill – boed hynny’n gweithio i Oxfam neu’r elusen gwrth-gaethwasiaeth y Freedom Fund, fel ymgyrchydd gwleidyddol a ffeminydd.”
“Roedd y weithred erchyll a’i cymerodd hi oddi wrthym yn ymosodiad ar ddemocratiaeth, ac mae’r wlad i gyd wedi tristau ac mewn sioc.
“Ond yn y dyddiau ers hynny, mae’r wlad hefyd wedi dysgu rhywbeth am y dyngarwch rhyfeddol a thosturi a oedd yn ysgogi ei chredoau gwleidyddol.”
Wrth gydymdeimlo a’i gwr Brendan a’i dau blentyn, a oedd yn yr oriel gyhoeddus, bu Jeremy Corbyn hefyd yn rhoi teyrnged i’r “arwyr” a oedd wedi ceisio achub Jo Cox, cyn annog ASau i newid y ffordd y mae gwleidyddiaeth yn cael ei chynnal yn y DU.
“Mae’n rhaid i ni gael gwleidyddiaeth fwy caredig a mwy addfwyn.
“Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb yn y Tŷ hwn a thu hwnt i beidio â chreu casineb a rhwygiadau,” meddai.
‘Goleuo bywydau pawb’
Wrth dalu teyrnged i Jo Cox, dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ei bod yn “gydweithwraig a ffrind arbennig” a bod ei hysbryd a’i hegni “wedi goleuo bywydau pawb a oedd yn ei hadnabod, ac wedi achub bywydau nifer nad oedd hi erioed wedi cwrdd â nhw.”
“Ond yn fwy na dim, mae’r Tŷ yn talu teyrnged i wleidydd cariadus, penderfynol, angerddol a blaengar” a oedd wedi “profi mor aml sut y gallai grym gwleidyddiaeth wneud ein byd yn le gwell.”
Yn dilyn y teyrngedau emosiynol fe fu gwasanaeth coffa yn Eglwys Santes Margaret.