Aelodau Llafur ar strydoedd Pontypridd. O'r chwith, Paul Murphy, Carwyn Jones, Rhodri Morgan, Peter Hain a Mick Antoniw (Llun: PA)
Ar strydoedd Pontypridd heddiw, bu rhai o ffigurau amlycaf Llafur Cymru yn ymgyrchu o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar drothwy’r refferendwm ddydd Iau.

Yn eu plith roedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, yr Arglwydd Peter Hain, cyn-Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan, y cyn-AS Paul Murphy, a Mick Antoniw AC Pontypridd.

Heddiw hefyd oedd y diwrnod swyddogol cyntaf o ymgyrchu gan y naill ymgyrch yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur Jo Cox yr wythnos diwethaf.

Wrth grwydro’r strydoedd heddiw, dywedodd Peter Hain ei fod yn ffyddiog bod yr ymgyrch i aros yn denu mwy o gefnogaeth.

Er hyn, mae’n cydnabod fod yr ymgyrchu wedi bod yn dalcen caled, “ond mae pobol yn dechrau wynebu’r penderfyniad ac yn sylweddoli fod hyn yn allweddol iddyn nhw a’u teuluoedd.”

‘Llithro i ddirwasgiad’

Dywedodd Rhodri Morgan: “Ers ymuno â’r UE, mae Cymru wedi denu llawer mwy o fuddsoddiad, fel Sony ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r gwaith peirianyddol Ford.”

Ychwanegodd ei fod yn “cofio’r blynyddoedd rhwng 1958 a 1973 pan oedd Prydain wedi aros allan o’r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd, a pha mor drychinebus oedd hynny i’r farchnad.”

“Fy mhryder i os ydyn ni’n gadael yw y bydd llai o hyder yn y marchnadoedd ariannol a bydd hynny yn ei dro yn gweld cwymp mewn hyder a ninnau’n llithro i ddirwasgiad.

“Mae hynny’n cyflwyno mwy o fygythiad na’r mythau sy’n cael eu dweud am blymwyr o Wlad Pwyl neu labrwyr o Latfia,” ychwanegodd.

Arweinwyr y Pleidiau

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth y ddau Brif Weinidog – David Cameron a Carwyn Jones – ymgyrchu gyda’i gilydd am y tro cyntaf, a hynny yng Nghaerdydd i annog pobol i bleidleisio i aros yn yr UE.

Economi, swyddi a busnesau oedd yn mynd â’u sylw, ac mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood hefyd wedi datgan mai pleidlais i aros sy’n gwneud “y synnwyr mwyaf economaidd” i Gymru.

Ond, mae Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig, sydd o blaid Brexit, yn dweud y byddai Cymru hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn ar eu hennill o fod allan o’r UE.