Ched Evans
Mae Ched Evans wedi cael  cynnig i ddychwelyd i fyd pêl-droed gan glwb Chesterfield.

Mae’r pêl-droediwr, 27 oed, wedi arwyddo cytundeb 12 mis gyda’r Spireites, meddai’r clwb.

Fe fydd yn ymuno a Chesterfield ar 1 Gorffennaf.

Fe fydd Evans yn sefyll ei brawf ar 4 Hydref ar gyhuddiad o dreisio dynes mewn gwesty ger Y Rhyl ym mis Mai 2011 ar ôl iddo ennill apêl yn erbyn ei ddyfarniad gwreiddiol.

Mae wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiad.

Fe fethodd cyn-ymosodwr Sheffield United a Chymru a sicrhau cytundeb gyda chlybiau pêl-droed ar ol cael ei ryddhau o’r carchar yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn gan noddwyr a chefnogwyr.

Dywedodd Clwb Pel-droed Chesterfield ar eu gwefan eu bod “wedi ystyried yn ddwys” cyn arwyddo Ched Evans.

Wrth ymateb, dywedodd Ched Evans ar wefan y clwb ei fod yn “gyffrous iawn” am ail-ddechrau ei yrfa gyda Chesterfield a’i fod yn gobeithio gwneud “cyfraniad gwerthfawr ar, ac oddi ar, y cae i’r clwb pêl-droed, y cefnogwyr a’r gymuned.”

Y cefndir

Cafodd y blaenwr ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref 2014 ar ôl treulio hanner ei ddedfryd o bum mlynedd dan glo.

Fe gafodd Ched Evans yr hawl i ail wrandawiad ar ôl i’r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol anfon ei achos i’r Llys Apêl.

Ym mis Ebrill eleni – union bedair blynedd wedi’r dyfarniad gwreiddiol – fe benderfynodd hwnnw ddileu’r dyfarniad wedi i gyfreithwyr y chwaraewr pêl-droed gyflwyno tystiolaeth newydd.

Roedd wedi gwadu’r cyhuddiad o dreisio o’r dechrau wedi digwyddiad mewn gwesty yn ardal Y Rhyl.