Jo Cox AS (Llun: Yui Mok/PA)
Mae Aelodau Seneddol yn dychwelyd i San Steffan heddiw er mwyn talu teyrnged i Jo Cox a gafodd ei lladd yn ei hetholaeth yng ngorllewin Swydd Efrog.

Roedd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin John Bercow wedi cytuno i alw ASau yn ôl er mwyn rhoi teyrngedau i’w cydweithiwr. Mae Ty’r Arglwyddi hefyd yn dychwelyd i San Steffan.

Nid yw ASau wedi bod yn San Steffan er mwyn caniatáu iddyn nhw ganolbwyntio ar ymgyrchu yn y dyddiau olaf cyn y refferendwm ar ddyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau.

Yn wahanol i’r arfer, fe allai ASau o wahanol bleidiau eistedd gyda’i gilydd yn hytrach na gyda’u pleidiau eu hunain.

Mae’r AS Ceidwadol Jason McCartney, sy’n cynrychioli Colne Valley, sydd ger etholaeth Jo Cox yn Batley a Spen, wedi ysgrifennu at John Bercow i’w annog i ganiatáu ASau i eistedd gyda’i gilydd fel arwydd o undod.

Mae Arweinydd Ty’r Cyffredin Chris Grayling wedi awgrymu ei fod yn cyd-fynd a’r syniad gan ddweud ei fod yn achlysur pan ddylai “pobl wneud yr hyn maen nhw’n gyfforddus yn ei wneud.”

Gwasanaeth coffa

Fe fydd gwasanaeth coffa yn Eglwys Santes Margaret yn dilyn y teyrngedau yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd Jo Cox, 41 oed, a mam i ddau o blant, ei lladd y tu allan i’r llyfrgell yn Birstall yn ei hetholaeth yng ngorllewin Swydd Efrog.

Mae ASau wedi son am ei hymrwymiad i achosion fel argyfwng ffoaduriaid Syria a’i gallu i weithio gydag aelodau o bob plaid.

Mae cronfa gafodd ei sefydlu er mwyn codi arian ar gyfer elusennau roedd hi’n eu cefnogi wedi casglu mwy na £800,000.

Fe ymddangosodd Thomas Mair, 52, o Birstall gerbron Llys Ynadon Westminster ddydd Sadwrn ar gyhuddiad o lofruddio Jo Cox, achosi niwed corfforol difrifol i Bernard Kenny, 77, a oedd wedi ceisio helpu’r AS, ac o fod a dryll a chyllell yn ei feddiant, gyda’r bwriad o gyflawni trosedd.

Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys yr Old Bailey heddiw.