Gareth Bale yn edrych ymlaen at yr her yn Toulouse
Mae tîm pêl-droed Cymru’n barod i ddial ar Rwsia pan fyddan nhw’n herio’i gilydd yn y drydedd gêm yn Ewro 2016 yn Toulouse nos Lun.

Rwsia oedd yn fuddugol yn y gemau ail gyfle ar gyfer Ewro 2004 ddeuddeg o flynyddoedd yn ôl, ond fe fyddai buddugoliaeth yn sicrhau lle i Gymru yn rownd yr 16 olaf yn Ffrainc yr haf yma.

Pe baen nhw’n llwyddo i ennill, bydden nhw’n cyrraedd rownd yr 16 olaf am yr ail waith yn unig yn eu hanes.

Ond fe allai gêm gyfartal yn Toulouse hefyd fod yn ddigon iddyn nhw.

Dywedodd Gareth Bale wrth y wasg ddydd Sul: “Maen nhw [Rwsia] yn amlwg yn dîm da. Ry’n ni’n deall hynny. Maen nhw yn y twrnament hwn am reswm.

“Fe wnaethon nhw gymhwyso ac yn amlwg, rhaid i chi fod yn dîm da i wneud hynny.

“Ry’n ni’n gwybod beth yw eu gwendidau a beth yw eu cryfderau. Ond rhaid i ni chwarae ein gêm ein hunain. Rhaid i ni fynd atyn nhw, ac ry’n ni eisiau ennill.”

Cefnogwyr

Ar drothwy’r gêm fawr, gwnaeth Bale gydnabod fod cefnogaeth y Cymry allan yn Ffrainc hyd yma wedi sbarduno’r tîm yn eu dwy gêm gyntaf, er iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Lloegr.

“Ry’n ni’n gwybod fod gyda ni gefnogaeth enfawr lle bynnag ry’n ni’n mynd. Roedd gyda ni lai o gefnogwyr [na Lloegr] yn y stadiwm yn erbyn Lloegr ond roedden ni fwy na thebyg yn fwy swnllyd.

“Lle bynnag mae ein cefnogwyr ni, maen nhw’n gwneud eu hunain yn amlwg. Maen nhw’n canu, yn bloeddio beth bynnag yw’r achlysur, ac rwy’n sicr y bydd yr un peth yn wir yn Toulouse.”

Cafodd sylwadau Bale eu hategu gan y rheolwr Chris Coleman wrth iddo yntau wynebu’r wasg ddydd Sul.

“Mae angen i’n cefnogwyr ni barhau i wneud beth maen nhw’n ei wneud. Mwynhau’r pêl-droed a’r profiad. Maen nhw’n cynrychioli’r wlad fel rydyn ni’n ei wneud.”

Does dim anafiadau gan Gymru ar drothwy’r gêm fawr, a does dim pryderon ar hyn o bryd am ffitrwydd Joe Ledley, oedd wedi dod oddi ar y cae yn y gêm yn erbyn Lloegr.

Bydd Cymru’n herio Rwsia am 8 o’r gloch nos Lun, wrth i Loegr herio Slofacia.