Cronfa eisoes wedi codi £600,000 er cof am yr aelod seneddol
Fe fydd gwasanaethau’n cael eu cynnal ddydd Sul er cof am yr aelod seneddol Jo Cox a gafodd ei lladd ddydd Iau.

Eisoes, mae cronfa a gafodd ei sefydlu yn dilyn ei marwolaeth wedi codi bron i £600,000.

Bydd y gwasanaethau’n cael eu cynnal yn eglwys St Peter’s yn Birstall yn ei hetholaeth.

Ymddangosodd Thomas Mair gerbron ynadon ddydd Sadwrn, lle cafodd ei gyhuddo o’i llofruddio, ynghyd ag achosi niwed corfforol difrifol, bod â dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o droseddu, a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Yn y llys, gwrthododd Mair roi ei enw, ei gyfeiriad neu ei ddyddiad geni cywir.

Bydd gwrandawiad mechnïaeth yn cael ei gynnal yn yr Old Bailey ddydd Llun.

Yn dilyn ei marwolaeth, galwodd chwaer Jo Cox, Kim Leadbeater ar i bobol “ganolbwyntio ar yr hyn sy’n ein huno ni ac nid yr hyn sy’n ein rhannu ni”.

Ddydd Sadwrn, ymwelodd y teulu â’r safle lle cafodd Jo Cox ei lladd ar ei ffordd i gyfarfod â’i hetholwyr.

Cafodd dyn 77 oed ei anafu yn y digwyddiad, ac mae e yn yr ysbyty o hyd.

Teyrngedau

Bydd aelodau seneddol yn dod ynghyd yn San Steffan ddydd Llun i dalu teyrnged i Jo Cox.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi drwy’r gronfa yn mynd at dri achos arbennig sydd wedi cael eu dewis gan ei gŵr Brendan – y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, Hope not Hate a’r White Helmets.