Fe fydd yr ymgyrchu ar gyfer y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn ail-ddechrau heddiw yn dilyn toriad wedi marwolaeth yr Aelod Seneddol Jo Cox yn Swydd Efrog ddydd Iau.
Mae’r Prif Weinidog David Cameron a’r Canghellor George Osborne wedi galw unwaith eto am bleidlais tros aros yn Ewrop, gan rybuddio bod gan Brydain ormod i’w golli.
Wrth i’r ymgyrchu ail-ddechrau, galwodd Osborne am wneud hynny mewn modd “llai rhanedig” yn ystod y dyddiau olaf cyn y refferendwm ar Fehefin 23.
Mewn erthygl yn y Mail on Sunday, galwodd Osborne am “fwy o ffeithiau a dadleuon rhesymegol”.
Yn ôl Osborne, mae’n destun “pryder mawr” fod yr ymgyrch tros adael yn parhau i anwybyddu cyngor arbenigwyr ynghylch effaith economaidd gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn erthygl arall yn y Sunday Telegraph, dywedodd Cameron fod Prydain yn wynebu “dewis dirfodol” ac na fyddai modd “troi yn ôl”.
Dywedodd fod economi Prydain “yn y fantol” a’i bod yn debygol y byddai dirwasgiad arall pe bai Brexit yn ennill y dydd.
“Os nad ydych chi’n sicr, peidiwch cymryd y risg o adael. Os nad ydych chi’n gwybod, peidiwch mynd.
“Pe baen ni’n gadael a’i bod yn gamgymeriad mawr yn y pen draw, ni fyddai unrhyw ffordd o newid ein meddyliau a rhoi cynnig arall arni. Dyma ni.”
Ond mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove wedi gwadu y byddai Prydain yn wynebu dirwasgiad o adael Ewrop.
“Dylai pobol bleidleisio o blaid democratiaeth a dylai Prydain bleidleisio dros obaith.”
Mae’r polau piniwn yn awgrymu bod yr ymgyrch tros aros yn adennill tir unwaith eto ar ôl llithro.
Mae’r Mail on Sunday yn awgrymu bod Aros ar y blaen o 45% i 42%.