Mae David Cameron wedi galw am oddefgarwch ym myd gwleidyddol Prydain wrth iddo dalu teyrnged i’r AS Llafur, Jo Cox.

Bu arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow, yn talu teyrngedau hefyd yn y dref yn Swydd Efrog lle gafodd ei lladd.

Bydd y Senedd yn San Steffan yn cael ei hail-alw ddydd Llun i alluogi Aelodau Seneddol i dalu teyrnged i’r fam i ddau.

Yn ôl y Prif Weinidog, roedd Jo Cox yn un o’r “ymgyrchwyr mwyaf angerddol” yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd Jo Cox, oedd prin wedi  bod yn AS dros Batley a Spen am flwyddyn, ei saethu a’i thrywanu yn y stryd y tu allan i’w chymhorthfa yn Birstall, ger Leeds ddydd Iau.

“Dylem gydnabod gwerthoedd Jo”

Fe wnaeth David Cameron, Jeremy Corbyn a John Bercow blygu eu pennau wrth iddyn nhw osod blodau ger cofeb yng nghanol y dref.

“Lle rydym yn gweld casineb, lle rydym yn canfod rhaniadau, lle rydym yn gweld anoddefgarwch, rhaid i ni ei hel o wleidyddiaeth ac o fywyd cyhoeddus ac o’n cymunedau,” meddai’r Prif Weinidog.

“Os ydym am anrhydeddu Jo, yna dylem gydnabod ei gwerthoedd – gwasanaeth, cymuned, goddefgarwch – y gwerthoedd roedd hi’n eu dilyn yn ei gwaith, dyna’r gwerthoedd y mae angen i ni eu hamlhau yn ein bywyd cenedlaethol am y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.”

Dynes “eithriadol a thalentog”

Mae ymgyrchu yn ystod refferendwm yr UE wedi dod i stop ac mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n sefyll yn erbyn Llafur mewn isetholiad o ganlyniad i’r farwolaeth.

Yn siarad wrth ochr y Prif Weinidog, dywedodd Jeremy Corbyn fod Jo Cox yn “ddynes eithriadol, hyfryd a thalentog iawn”.

Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn yr ymosodiad ddoe yn parhau i gael ei gadw yn y ddalfa.