Valdimir Putin
Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi galw ar yr awdurdodau yn Ffrainc i drin cefnogwyr ymosodol yr un fath wrth eu cosbi.
Hefyd mae wedi codi amheuon am y trafferthion hyd yma.
“Dw i ddim yn gwybod sut all 200 o gefnogwyr Rwsia ymladd miloedd o gefnogwyr Lloegr,” meddai Vladimir Putin.
Mae erlynwyr Ffrengig yn beio criw o gefnogwyr Rwsiaidd ymosodol, wedi eu hyfforddi’n drwyadl, am ddechrau’r trais ym Marseille dros y penwythnos.
Hefyd mae UEFA wedi bygwth taflu Rwsia o’r twrnament os oes rhagor o drafferth yn digwydd o fewn y meysydd, wedi i grŵp o gefnogwyr y wlad ymosod ar gefnogwyr Lloegr yn y Stade Velodrome ar ddiwedd y gêm nos Sadwrn ym Marseille.
Talu gormod o sylw
Wrth ymateb i’r trais, dywedodd Vladimir Putin: “Ar y funud, mi’r ydan ni’n gweld llawer o broblemau mewn chwaraeon. Mae pencampwriaeth Ewrop yn cael ei chynnal a dw i’n credu fod pobl yn talu gormod o sylw i ymladd rhwng cefnogwyr.”
Mae’n credu y dylid trin pawb yn gyfartal, gan awgrymu fod angen i gefnogwyr Lloegr hefyd gael eu cosbi. “Fe ddylid trin y drwgweithredwyr yn gyfartal,” meddai.
“Ond er hynny dw i’n ymwybodol bod angen gwneud rhagor i daclo hyn. Ga i bwysleisio nad ydym erioed wedi cefnogi drwgweithredwyr mewn chwaraeon, ac nid ydym wedi cefnogi hynny ar lefel wladwriaethol, a ni fydden ni fyth yn cefnogi hyn.”