Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn defnyddio cwmni o du hwnt i Gymru i benodi Is-ganghellor newydd.

Cwmni Perrett Laver sydd wedi cael y gwaith – cwmni sydd â’i swyddfeydd yn Llundain, Amsterdam, Glasgow a gwledydd eraill ledled y byd.

Mae myfyrwyr wedi cwestiynu rôl y cwmni, gan godi pryderon dros flaenoriaeth y Brifysgol i benodi Is-ganghellor sy’n siarad Cymraeg.

“Rydym ni’n amheus fod y Brifysgol yn defnyddio cwmni recriwtio gan ei fod yn awgrymu y bydd y Brifysgol a’r cwmni yn chwilio ceisiadau yn eang,” meddai Elfed Wyn Jones, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith.

“Rydyn ni wedi dweud yn y gorffennol bod angen i Is-ganghellor y Brifysgol allu defnyddio’r Gymraeg wrth weithio bob dydd, ac yn deall anghenion cymuned Gymraeg y brifysgol.”

Fe ddywedodd y myfyriwr hefyd nad oedd yr Is-ganghellor, April McMahon, a fydd yn gadael ei swydd ym mis Gorffennaf, wedi dysgu’r Gymraeg yn rhugl, er ei bod wedi bod yn y swydd ers 2011.

Ers mis Chwefror 2016, mae’r Athro John Grattan wedi bod yn Is-ganghellor Dros Dro yn y brifysgol, ac nid yw yn rhugl yn y Gymraeg.

Disgwyl cyrraedd Safon D yn y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymateb i bryderon y myfyrwyr gan ddweud y bydd “disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gwrdd â Safon D o ran y Gymraeg, neu ymrwymo i ddysgu i’r safon honno o fewn cyfnod penodol o amser, fel y gall siarad Cymraeg yn hyderus o ddydd i ddydd.”

Mae Safon D yn golygu y bydd y person hwnnw yn gallu deall popeth ar y ffôn, teledu neu mewn cyfarfod, yn gallu siarad yn hyderus am rychwant o bynciau ac yn gallu gwneud cyflwyniadau clir ar bynciau cyfarwydd.

Clywed barn myfyrwyr

Mewn e-bost at fyfyrwyr heddiw, oedd yn cyhoeddi penodiad cwmni Perrett Laver, dywedodd Canghellor y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry, fod y Brifysgol am glywed barn myfyrwyr am yr hyn maen nhw’n credu sy’n bwysig wrth benodi prifathro newydd.

“Rydym yn awyddus i ddeall mwy am y cyfleoedd a’r heriau sy’n ein hwynebu, a’r math o sgiliau y bydd eu hangen ar yr Is-ganghellor newydd er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn,” meddai.

Mae Cell Pantycelyn yn annog pobol i ymateb gan ddweud y dylai’r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i’r swydd.

“Yr unig ffordd i sicrhau fod yr Is-ganghellor nesaf yn medru’r Gymraeg ydy mynnu fod y Gymraeg yn sgil hanfodol wrth hysbysebu’r swydd.

“Does dim rheswm pam na ddylai’r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i’r swydd hon, ac i bob swydd  mae’r Brifysgol yn ei hysbysebu yn y dyfodol.”

Cost

Mae’r myfyrwyr wedi cwestiynu’r gwariant ar y cwmni hefyd, ond dywedodd Prifysgol Aberystwyth wrth golwg360 nad oedden yn gallu rhoi gwybodaeth am y gost am “resymau cyfrinachedd masnachol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth, “mae defnyddio cwmni recriwtio gweithredol fel rhan o’r broses o benodi Is-ganghellor newydd yn arfer cyffredin ymhlith Prifysgolion.”

“Penodwyd Perrett Laver yn dilyn proses caffael agored, a rôl y cwmni fydd cynorthwyo’r Pwyllgor Dewis i ganfod yr ymgeiswyr gorau posib a datblygu manylion penodi ar gyfer y swydd. Cyn gwneud hyn, bydd y cwmni yn cynnal ymgynghoriad ymhlith staff a myfyrwyr Aberystwyth.”

Mae gofyn i bobol sydd am gynnig syniadau am hanfodion rôl Is-ganghellor y Brifysgol, eu hanfon at AberystwythVC@perrettlaver.com