Er mai canlyniad siomedig a gafwyd brynhawn ddoe yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth Ewro 2016, roedd rhai o dafarnau Cymru yn aruthrol o brysur.

Dywedodd rheolwr Tafarn y Pen Deitsh yng Nghaernarfon,  Paul Thomas: “Mae hwn fel arfer yn dafarn rygbi, ond mi’r oedd hi’n ffantastig, gyda’r dafarn yn llawn dop drwy’r dydd. Mi’r oedd rhai o dafarnau eraill yng Nghaernarfon wedi gwerthu allan o gwrw. Mi oedd yr awyrgylch yn dre’ yn wych, mi’r oeddet ti’n teimlo dy fod yn Ffrainc! Mae’n dda cael prysurdeb fel yna yn dre’.”

Er bod Paul Thomas yn fwy o gefnogwr rygbi, roedd yntau hefyd yn ymuno yn yr hwyl: “Roedd yn dorcalonnus yn y diwedd yn enwedig ar ôl i Bale sgorio ar y dechrau. Dydw i ddim yn gefnogwr pêl-droed fel arfer ond mi’r oeddwn teimlo’n rhan o’r peth.”

Un o’r prysuraf erioed

Yn Nhafarn y Mochyn Du yng Nghaerdydd, dywedodd  y rheolwr Richard Lewis mai ddoe oedd un o’r pnawniau prysuraf erioed o ran pêl-droed: “Mi’r ydan ni wedi cael pnawniau tebyg ond dim ond pan oedd Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan yr FA a phan oedd Abertawe yn y gemau ail gyfle.

“Ond dyma’r pnawn prysuraf erioed wrth wylio tîm Cymru.  Roedd yna awyrgylch ffantastig.”