Mae’r heddlu wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio Lynford Brewtser yn Llanedeyrn nos Sul diwethaf.

Fe fydd Dwayne Edgar, 29 oed ac o Lanedeyrn, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon brynhawn yma. Mae dau ddyn arall o Gaerdydd, ill dau yn 19 oed, hefyd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad gyda’r ymchwiliad ac wedi eu  rhyddhau ar fechnïaeth. Cafodd pedwerydd dyn ei arestio fel rhan o’r ymchwiliad.

Mae swyddogion cyswllt yr Heddlu yn cefnogi teulu Lynford Brewtser ar hyn bryd.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ac os oes gan y cyhoedd unrhyw wybodaeth, dylid cysylltu ar 101 neu Daclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan gyfeirio at y rhif *218368.