Mae gwleidyddion wedi cael eu rhybuddio i adolygu eu mesurau diogelwch yn dilyn llofruddiaeth yr Aelod Seneddol, Jo Cox, amser cinio ddoe.
Aeth neges o Downing Street at bob un Aelod Seneddol i’w hatgoffa am ganllawiau diogelwch.
Cafodd Jo Cox ei saethu a’i thrywanu ar y stryd y tu allan i’w chymhorthfa yn Birstall, ger Leeds, ddoe.
Dywedodd Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, ei fod wedi ystyried cymryd camau ychwanegol i ddiogelu ei hun, yn dilyn yr hyn mae’n ei alw’n “drychineb” a ddigwyddodd ddoe.
“Dw i wedi cael pobol yn dod i mewn yn dweud y drefn ac yn cega, os nad yn bygwth, ond o leia’n bobol flin ofnadwy. Ond dw i erioed wedi cael bygythiad, un fyswn i’n ystyried yn beryglus, fy hun,” meddai.
“Rydan ni wedi bod yn ystyried cael petha’ fel larymau personol, a dw i yn ystyried dim ond gwneud syrjeris gydag apwyntiad ac yn sicr i beidio â chynnal syrjeris ar ben fy hun.
“Ond mae gan y cyhoedd ddisgwyliad rhesymol i fedru fy ngweld i, ac wedyn mae’n rhaid i rywun sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau beth. Mae o’n anodd, yn sicr.”
Dywedodd y bu’r heddlu yn ei swyddfa rhyw fis yn ôl i gynnal asesiad diogelwch a gwirio drysau a ffenestri, a’u bod wedi ei helpu i wneud asesiad personol o’i ddiogelwch ei hun hefyd.
“Ond dydy o ddim yn gymaint o broblem yn y swyddfa, y broblem ydy pan dw i allan yn cynnal syrjeri mewn canolfan gymdeithasol ym Mangor,” ychwanegodd.
“Ryda ni’n rhedeg system apwyntiad ond weithiau dw i’n gwneud syrjeri drws agored, a hyd yn oed os oes yna apwyntiad, dydy hynny ddim yn stopio rhywun rhag cerdded i mewn.
“Pryder mawr” i ASau benywaidd
Mewn arolwg o Aelodau Seneddol, fe wnaeth aelodau benywaidd nodi bod diogelwch yn “bryder mawr”.
Fe wnaeth Pwyllgor Gweinyddu Tŷ’r Cyffredin nodi hefyd bod gwleidyddion yn gorfod delio ag achosion yn ymwneud â stelcian a phobol â chyllyll a gynnau.