Banc Lloegr Llun: PA
Mae pedwar aelod blaenllaw o’r Blaid Geidwadol a dau gyn-ganghellor wedi beirniadu’r Trysorlys a Banc Lloegr a’u cyhuddo o “hyrwyddo rhagolygon ffug” mewn ymgais i godi ofn ar bleidleiswyr i ddewis aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r cyn-ganghellorion, yr Arglwydd  Norman Lamont a’r Arglwydd Nigel Lawson, a chyn-arweinwyr y blaid Iain Duncan Smith a’r Arglwydd Michael Howard, yn hynod feirniadol o rybuddion am yr effaith economaidd o adael yr Undeb, o du’r ymgyrch dros aros yn Ewrop.

Mae’r pedwar hefyd wedi beirniadu ymddygiad yr ymgyrch dros aros yn yr Undeb, gan gyhuddo’r Canghellor George Osborne o “godi bwganod” drwy ddweud y byddai’n rhaid cynnal Cyllideb frys yn sgil Brexit.

Mewn erthygl yn y Daily Telegraph maen nhw’n dweud bod Banc Lloegr, y Trysorlys a ffynonellau swyddogol eraill “wedi methu a chyflwyno dadl deg a chytbwys.”

Ond mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud ei fod yn “hynod bryderus” bod aelodau blaenllaw o’r Blaid Geidwadol yn beirniadu “annibyniaeth” Banc Lloegr.

Dywedodd y dylai pleidleiswyr “wrando ar arbenigwyr annibynnol ynglŷn â’r peryglon i’r economi yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.”

Gyda dim ond wythnos i fynd tan y refferendwm mae’r pedwar Ceidwadwr yn mynnu bod economi’r DU yn ddigon cadarn i ffynnu y tu allan i’r UE.