Syr Philip Green
Mae cyn-berchennog BHS wedi ymddiheuro i’r staff, gan ddweud nad oes neb yn fwy trist nag ef fod y busnes wedi methu.
Mae’r biliwnydd, Syr Philip Green, yn wynebu grŵp o Aelodau Seneddol o’r pwyllgorau Busnes a Phensiynau heddiw, sy’n ymchwilio i fethiant y cwmni.
Yn dilyn cwymp BHS, mae bellach 11,000 o swyddi mewn perygl a chronfa bensiwn gwerth £571 miliwn yn y fantol.
O dan chwyddwydr yr ASau, ymddiheurodd Syr Philip Green i “bobol BHS sy’n rhan o hyn ac sydd wedi bod yn rhan o hyn.”
Mae’r dyn busnes, sy’n berchen ar sawl gwmni arall, gan gynnwys y siop ddillad, Topshop, wedi dod dan y lach am gymryd £400m mewn rhandaliadau o’r cwmni yn ystod y 15 mlynedd roedd yn berchen ar BHS.
Mae hefyd wedi cael ei feirniadu am y modd y deliodd â chynllun pensiwn y cwmni ac am werthu BHS i’r cyn-fethdalwr, Dominic Chappell am £1 yn 2015.
Fodd bynnag, mae Philip Green yn dweud iddo roi £600 miliwn yn ôl i’r cwmni ar ôl cymryd y rhandaliadau.
Gwadu osgoi talu treth
Fe wnaeth e amddiffyn ei ddefnydd o’r hafan dreth, Monaco, i redeg ei fusnes, gan ddweud nad yw’n “derbyn” bod hynny’n osgoi talu trethi.
“Gyda phob parch, os byddwch yn edrych ar ein strwythur corfforaethol, mae ‘na lawer o bethau ysgrifenedig a dwi ddim am siarad am gwmnïau eraill, nid dyna yw fy ffordd.
“Gallwn fod llawer yn fwy ymosodol nag yr oeddwn. Mae pob ceiniog mae ein cwmni wedi’i wneud yn y Deyrnas Unedig wedi talu treth.”
Wrth roi tystiolaeth, fe wnaeth Syr Philip Green stopio ar ganol frawddeg i ddweud y drefn wrth Richard Fuller AS am “syllu” arno.
“Syr, oes ots gennych chi i beidio edrych arnaf i fel hynny drwy’r amser, mae’n annifyr iawn. Rydych chi’n syllu arnaf i, mae’n gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus,” meddai.
Atebodd Richard Fuller, gan ddweud nad oedd yn dymuno i’w wneud i deimlo’n anghyfforddus.