Gwn Taser Llun: PA
Mae dyn o Lanelli wedi marw ar ôl cael ei saethu â gwn taser gan yr heddlu mewn digwyddiad neithiwr.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ddigwyddiad yn y dref am 7.35yh nos Fawrth yn dilyn pryderon am ddiogelwch y dyn ac mae lle i gredu ei fod e eisoes wedi cael ei anafu cyn i’r heddlu gyrraedd.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael eu galw oherwydd ymddygiad y dyn.

Mewn datganiad, dywedodd Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) bod y dyn wedi marw yn y fan a’r lle.

Maen nhw’n cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad a dywed Heddlu Dyfed-Powys y byddan nhw’n “cydweithredu’n llawn gyda’r ymchwiliad.”

‘Pryder difrifol’

Wrth ymateb i’r adroddiadau, mae Aelod Cynulliad Llanelli, Lee Waters, a’r Aelod Seneddol Llafur, Nia Griffith, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn nodi “pryder difrifol.”

“Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r dyn fu farw,” meddai’r ddau.

“Mae angen i’r IPCC gynnal ymchwiliad trylwyr i pam a sut yn union ddigwyddodd hyn, a byddwn yn mynd â’r mater hwn i’r awdurdodau perthnasol.”