Mae dros ddau draean o Aelodau’r Cynulliad wedi llofnodi llythyr sy’n galw ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Hall i amlinellu faint o gyllid ychwanegol fydd BBC Cymru yn ei dderbyn.
Fis diwethaf, dywedodd Hall mewn llythyr at Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod cynlluniau ar y gweill i roi cyllid ychwanegol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn 2014, dywedodd Hall fod rhaglenni Saesneg BBC Cymru wedi cael eu “herydu”.
Wrth i’r BBC ddweud y byddan nhw’n cadarnhau’r cyllid dros y misoedd nesaf, mae Aelodau’r Cynulliad yn dweud nad yw geiriau’n ddigon.
41 o ACau sydd wedi llofnodi’r llythyr – a’r rheiny’n dod o’r Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a UKIP.
‘Angen gwybod faint o arian’
Dywedodd Bethan Jenkins wrth raglen Post Cyntaf y BBC: “Dan ni wedi cydnabod bod Tony Hall wedi dweud bod ’na broblemau yng nghyd-destun sut a beth sy’n cael ei ariannu yma yng Nghymru o ran y BBC, yn enwedig drwy gyfrwng y Saesneg.
“Mae Tony Hall wedi dod i Gymru i wneud araith, ddwy flynedd yn ôl, ac wedi cydnabod bryd hynny bod ’na broblemau, ac yn y llythyr, ’dan ni’n dweud ‘Diolch am gydnabod hynny, diolch am ddweud fod y system yn anghynaladwy ond wedyn, ’dan ni angen gwybod yn sicr faint o arian ychwanegol nawr ydych chi fel corfforaeth yn mynd i roi i Gymru er mwyn bo ni ddim yma mewn dwy flynedd arall yn trafod yr un problemau ariannu ar gyfer y BBC.
“Mae ’na arian yn mynd i ranbarthau eraill, i systemau eraill o fewn y BBC ac felly, maen nhw wedi cydnabod fod angen system gynaliadwy o ariannu ac felly dyna beth mae’r llythyr yn dweud, a dechrau’r tymor newydd gyda’r bwriad o roi her i’r BBC, i ofyn iddyn nhw fod yn blaen ynglŷn â beth maen nhw’n bwriadu gwneud yn hynny o beth.”
BBC ddim yn ‘portreadu Cymru’n effeithiol’
Ychwanegodd nad yw’r BBC yn “portreadu Cymru’n effeithiol ar y rhwydwaith” ac nad oes “digon o raglenni Cymreig iaith Saesneg”.
Mae’r rhai sydd wedi anfon y llythyr yn galw am sefydlu pwyllgor yn y Cynulliad, er gwaetha’r ffaith nad yw darlledu wedi cael ei ddatganoli i Fae Caerdydd. Dywedodd Bethan Jenkins mai “trafod materion ynghylch y cyfryngau mewn ffordd systemataidd” fyddai diben y pwyllgor.
Ar hyn o bryd, meddai, dim ond ar ffurf ad-hoc y mae’r pwyllgor yn y Cynulliad yn cwrdd.
Byddai’r pwyllgor newydd, meddai, yn craffu ar y “BBC, ITV, pawb sy’n ymwneud â’r cyfryngau”.