Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau
Bydd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl heno.
Mae’r Goron, sydd wedi’i chreu gan yr artist lleol Deborah Edwards, wedi’i hysbrydoli gan ardal Sir Fynwy, gyda ffenestri arni i adlewyrchu Abaty Tyndyrn a golygfa wahanol o’r sir ym mhob ffenest – Y Fenni, Rhaglan, Cil-y-Coed, Pont Hafren a Chas-gwent.
Mae bryniau a mynyddoedd y sir, yn ogystal â’r Arglwyddes Llanofer, fu’n weithgar dros iaith a diwylliant yr ardal, yn cael eu cynrychioli ar y Goron hefyd.
Cafodd ddwy haen ffenestri y Goron eu gwehyddu â llaw gan y gwehyddwr, Sioni Rhys, yn ei stiwdio ym Mhandy.
Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau 2016
Cadair i gofio Dic
I gofio hanner canrif ers i’r diweddar Dic Jones ennill y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl, ‘Y Cynhaeaf’, bydd Cadair Eisteddfod Sir Fynwy eleni yn cael ei rhoi gan deulu’r bardd er cof amdano.
Y crefftwr Emyr Garnon James, sydd hefyd yn bennaeth Adran Dylunio a Thechnoleg Ysgol Uwchradd Aberteifi, gafodd ei ddewis gan deulu Dic i gynllunio’r Gadair.
Cadair “ddi-fws” fydd hon yn ôl y crefftwr, gyda phren Ffrengig du – “cynllun y byddai Dic ei hun wedi’i werthfawrogi, gobeithio”, meddai.
Bydd y Gadair yn cael ei rhoi i brifardd yr Eisteddfod eleni – gyda’r gystadleuaeth yn gofyn am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl ‘Ffiniau’.
Ac i ennill y Goron, mae gofyn am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 250 o linellau ar y pwnc ‘Llwybrau’.
Gobeithio am ‘feirdd haeddiannol’
Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair, diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Lleol, Frank Olding, i’r crefftwyr am eu gwaith ac i Gymreigyddion Y Fenni a theulu Dic Jones am gyflwyno’r gwobrau.
Alun Griffiths (Contractors) Cyf sydd wedi rhoi’r wobr ariannol am y Goron eleni a theulu Islwyn Jones, o Gaerdydd, sydd wedi cyflwyno’r wobr ariannol am y Gadair, er cof amdano.
“Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran y Brifwyl,” meddai Frank Olding.
“Mae’r seremonïau’n ddwy o uchafbwyntiau’r wythnos, ac rydym yn mawr obeithio y bydd beirdd haeddiannol yn derbyn y Goron a’r Gadair yma yn Sir Fynwy ymhen rhai wythnosau.”