Llofruddiaeth y ffermwr o Geredigion yw’r diweddaraf i gael sylw ar raglen Y Ditectif heno wrth i ddau dditectif fu’n gweithio ar yr achos ddatgelu hanes yr ymchwiliad.
Cafodd John Williams, oedd yn ffermio fferm Brynambor ger Llanddewibrefi, ei ladd yn ei gartref ym mis Ionawr 1983.
Cafodd y llofrudd Richard Gambrell ei ddal a’i ddedfrydu am y llofruddiaeth, ond fe geisiodd ffoi rhag yr heddlu drwy ddianc dros fynyddoedd y canolbarth.
Mewn cyfweliad arbennig, dywedodd y cyn-Brif Uwch-arolygydd John Lewis, “dydyn ni dal ddim wedi dod o hyd i’r gwn, sy’n bryder mawr, oherwydd os byddai’n cael ei ryddhau [y llofrudd] fe allai ddod o hyd i’r gwn. Pwy a ŵyr, fe allai ddychwelyd i’r ardal.”
Gwrthod dweud ble mae’r gwn
Ychwanegodd y cyn-Brif Uwch-Arolygydd ei fod wedi ymweld â Richard Gambrell ugain mlynedd yn ddiweddarach yn y carchar yn Durham.
“Fe addawodd ddweud wrth chwaer John ble oedd yr arian, a’r gwn. Ond pan gyrhaeddais yno roedd yn afresymol ac yn gwrthod dweud dim,” meddai John Lewis.
“Roedd gen i ofn ei gyfarfod. Pan gerddais i mewn yna, roedd pum warden yno i gadw trefn arno. Y peth cyntaf a ddywedodd wrtha’ i oedd, “Dw i’n dy nabod di’ achos mi es ag ef i’r ddalfa yn ’77.”
‘Obsesiwn sinistr’
Mae’r rhaglen hefyd yn edrych ar effaith y llofruddiaeth ar yr ardal, gyda’r cyn-Gwnstabl Arolygydd, Emyr Lake, yn cofio “pan gyrhaeddodd y newyddion y pentref fod John wedi’i saethu, doedd neb yn gwybod beth i’w ddweud.”
Esboniodd fod gan y llofrudd “obsesiwn sinistr â’r ardal.”
“Byddai’n dod ’nôl i’r ardal dro ar ôl tro, dw i ddim yn gwybod pam. Fe wnaeth e ddatblygu rhyw obsesiwn gyda’r ardal. Roeddem ni’n poeni ei fod dal ar hyd y lle gyda gwn neu yn y mynyddoedd gerllaw,” meddai Emyr Lake.
Bydd achos llofruddiaeth John Williams Brynambor yn cael sylw ar Y Ditectif heno ar S4C am 9.30yh.