Bydd Kizzy Crawford yn Llangefni yfory
Mae disgwyl miloedd yng Ngŵyl Cefni yfory ar gyfer un o wyliau mwyaf Ynys Môn.
Roedd yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal ar faes parcio Gwesty’r Bull, yng nghanol tref Llangefni, yn dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed y llynedd, ac yn ôl y trefnwyr, mae wedi tyfu i fod yn “ŵyl fawr”.
Bydd gêm gyntaf Cymru yn Ewro 2016, yn erbyn Slofacia, yn cael ei darlledu’n fyw o’r ŵyl ar sgriniau mawr y llwyfan, a bydd Band Pres Llareggub yn perfformio wedi hynny.
“Rydan ni wedi cael Band Pres Llarreggub i godi hwyliau (os na fydd Cymru’n ennill) ac os ydan ni’n curo, wedyn well fyth de!” meddai Richard Owen o Fenter Iaith Môn, sy’n rhan o’r trefnu.
Lein yp
Mae’r digwyddiad brynhawn yfory am ddim ac yn perfformio mae Kizzy Crawford, Calfari, Ysgol Sul, Ed Holden a Carma.
Yn y bore, bydd gweithgareddau i’r teulu yng Nghapel Moreia o 10:30 ymlaen, gyda chyflwynwyr Cyw, Sioe Cei Bach a gorymdaith Sali Mali. Mae mynediad i’r gweithgareddau am ddim hefyd.