Y gwrthdaro rhwng cefnogwyr Lloegr a Rwsia yn Stade Velodrome, Marseille Llun: Owen Humphreys/PA Wire
Fe fydd mwy o sylw nag arfer yn cael ei roi i ymddygiad cefnogwyr wrth i Rwsia herio Slofacia yn Ewro 2016 yn Lille ddydd Mercher.

Mae Rwsia wedi cael gwybod y gallen nhw gael eu diarddel o brif gystadleuaeth bêl-droed ryngwladol Ewrop pe bai rhagor o ymladd ymhlith y dorf – ac maen nhw eisoes wedi cael dirwy o £119,000.

Cafodd Rwsia eu cyhuddo o fethu rheoli eu cefnogwyr, defnyddio tân gwyllt mewn stadiwm ac ymddygiad hiliol yn Stade Velodrome ym Marseille yn ystod y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr, a orffennodd yn gyfartal 1-1.

Er gwaetha’r bygythiad, mae rheolwr y tîm cenedlaethol, Leonid Slutsky yn hyderus y bydd y cefnogwyr yn ymddwyn yn gall.

“Ry’n ni’n sicr na fyddwn ni’n cael ein cicio allan. Fydd yna ddim anghyfiawnder.”

Ychwanegodd ymosodwr y tîm, Artem Dzyuba y byddai’n “dwp” pe bai’r tîm yn colli eu lle yn y gystadleuaeth ar ôl i’r cefnogwyr gael rhybudd.

“Dy’n ni ddim am gael ein diarddel am y sefyllfa hon. Yr ugeinfed [sic] ganrif yw hi.

“Rhaid i’r cefnogwyr ganolbwyntio ar ein cefnogi ni a rhaid i ni ddangos ein rhinweddau gorau.”

UEFA

Dim ond y tu fewn i’r caeau y mae rhybudd UEFA yn weithredol, ac fe ddigwyddodd y rhan fwyaf o’r ymladd y tu allan ar y strydoedd.

Ac mae cadeirydd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Greg Dyke wedi cwyno wrth UEFA nad oedd safon y stiwardio ar gyfer y gêm rhwng Lloegr a Rwsia yn ddigon da.

Mae e hefyd wedi mynegi pryderon am y cynlluniau sydd yn eu lle ar gyfer gêm Lloegr yn erbyn Cymru yn Lens ddydd Iau.

Mae’r heddlu wedi ymateb i bryderon am ymladd drwy anfon rhagor o blismyn i gynorthwyo heddlu Ffrainc.