Mae Morgannwg wedi colli o 28 rhediad yn erbyn Swydd Middlesex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Royal London yn y Swalec SSE yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Tarodd cyn-fatiwr Morgannwg, Brendon McCullum 110 wrth i Swydd Middlesex sgorio 294-7 ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf.
Cafodd McCullum gefnogaeth gan Dawid Malan wrth i’r agorwyr adeiladu partneriaeth wiced gyntaf o 176.
Er i’r ymwelwyr golli gweddill eu wicedi am 74 rhediad, roedd hynny’n ddigon i osod nod y tu hwnt i gyrraedd Morgannwg, gan ddod â rhediad di-guro i ben.
Y seren ymhlith bowlwyr Morgannwg oedd Colin Ingram, wrth iddo gipio tair wiced am 38 yn ei ddeg pelawd, a doedd ei gyfraniad o 85 gyda’r bat ddim yn ddigon wrth i’r Cymry orffen ar 266 i gyd allan, a James Fuller a James Franklin yn cipio tair wiced yr un.
Manylion
Cafodd Swydd Middlesex ddechrau cadarn i’r batiad ar ôl cael eu gwahodd i fatio’n gyntaf gan Forgannwg.
Adeiladodd Dawid Malan a chyn-fatiwr Morgannwg, Brendon McCullum bartneriaeth wiced gyntaf o 176 i osod y seiliau i’r ymwelwyr.
Cyn-fatiwr Morgannwg, Brendon McCullum oedd y cyntaf i gyrraedd ei hanner canred, a hynny oddi ar 45 o belenni, gan daro pump pedwar ac un chwech i gyrraedd y garreg filltir. Roedd cyn-gapten Seland Newydd eisoes wedi cael ei ollwng ar 49 ac wedi cael ei ddal oddi ar belen anghyfreithlon.
Wrth i bartneriaeth McCullum a Malan ddatblygu, fe gyrhaeddodd Malan yntau ei hanner canred oddi ar 75 o belenni, gan daro pedwar pedwar ar ei ffordd.
Ond Malan oedd y batiwr cyntaf allan, gan ddod â phartneriaeth o 176 gyda McCullum i ben, wrth i’r wicedwr Chris Cooke ei ddal oddi ar fowlio Michael Hogan ar ôl 26.2 pelawd.
Cyrhaeddodd McCullum ei ganred oddi ar 78 o belenni ac roedd e wedi taro 11 pedwar a phedwar chwech i gyrraedd y garreg filltir.
Ond fe ddaeth ei fatiad i ben ar 110 wrth iddo gael ei ddal ar y ffin ar yr ochr agored wrth yrru Michael Hogan yn syth i lawr corn gwddf y capten Jacques Rudolph, a’r ymwelwyr bryd hynny’n 201-2.
13 rhediad gafodd eu hychwanegu gan Paul Stirling ac Eoin Morgan cyn i Stirling ddarganfod dwylo diogel David Lloyd oddi ar fowlio Colin Ingram ar ôl 33.3 o belawdau.
Cwympodd y bedwaredd wiced o fewn dim o dro wrth i Nick Gubbins gael ei ddal ar ochr y goes gan Michael Hogan oddi ar Craig Meschede am 2, a’r cyfanswm yn 217-4.
Aeth 217-4 yn 223-5 wrth i Andrew Salter ddal Eoin Morgan yn sgwâr ar ochr y goes oddi ar fowlio Ingram am 10 ac roedd yr ymwelwyr erbyn hynny wedi colli tair wiced am 16 rhediad ar ôl dechrau mor addawol.
Collodd yr ymwelwyr eu chweched wiced ar 236 wrth i John Simpson daro’r bêl yn syth yn ôl i ddwylo’r bowliwr Graham Wagg ar ôl 42.2 o belawdau, a Swydd Middlesex erbyn hynny wedi colli pum wiced am 35 o rediadau.
Ychwanegodd cyn-chwaraewr Morgannwg, James Franklin a Toby Roland-Jones 12 o rediadau cyn i Franklin gael ei fowlio o amgylch ei goesau i roi trydedd wiced i Ingram, a orffennodd gyda ffigurau o 3-38 mewn 10 pelawd.
Daeth cyfnod o 16 o belawdau heb ergyd i’r ffin i ben ar ddechrau pelawd rhif 47 wrth i Graham Wagg gael ei dynnu am bedwar gan Toby Roland-Jones, a gafodd ei ollwng oddi ar y belen nesaf gan Aneurin Donald ar y ffin ar yr ochr agored, cyn ergydio’n syth am ail bedwar yn y belawd.
Roedd partneriaeth o 46 rhwng Roland-Jones (30 heb fod allan) ac Ollie Rayner (21 heb fod allan) yn ddiweddglo angenrheidiol i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw lwyddo i gyrraedd 294-7 oddi ar eu 50 pelawd.
Ar ôl dechrau cadarn i Jacques Rudolph a David Lloyd wrth iddyn nhw agor i Forgannwg, roedd y tîm cartref yn 50-0 ar ôl 7.1 o belawdau ac yn edrych yn gyfforddus yn erbyn bowlio digon cyffredin.
Ond yn y deuddegfed pelawd, cafodd Lloyd ei ddal gan Paul Stirling am 41 wrth geisio bachu oddi ar James Fuller, a Morgannwg yn 65-1.
Ychwanegodd Rudolph a Will Bragg 49 o rediadau cyn i Rudolph gael ei ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio James Franklin am 45, a Morgannwg yn 114-2 ar ôl 22.5 o belawdau. Doedd hi ddim yn hir cyn i’r un cyfuniad waredu Will Bragg yn yr un modd, a Morgannwg bellach yn 121-3 union hanner ffordd trwy’r batiad, ac unwaith eto 18 rhediad yn ddiweddarach i waredu Aneurin Donald.
Wrth i Ingram a Chris Cooke ddod ynghyd, fe lwyddon nhw i sefydlogi’r batiad ond roedd hi’n edrych yn anochel mai’r ymwelwyr fyddai’n mynd â hi, gyda nod o 120 oddi ar y pymtheg pelawd olaf. Fe adeiladodd y batwyr bartneriaeth o hanner cant fel bod angen 104 oddi ar 13 o belawdau – wyth rhediad y belawd – am y fuddugoliaeth.
Cyrhaeddodd Ingram ei hanner canred – ei drydydd yn olynol mewn gemau undydd – ym mhelawd rhif 39, a hynny oddi ar 47 o belenni, gan daro dau bedwar a thri chwech.
88 oddi ar y 60 pelen olaf oedd y nod i Forgannwg yn y pen draw ac erbyn hynny roedd Ingram a Cooke wedi adeiladu partneriaeth o 69. Ond wrth geisio clatsio’n rhy aml, cafodd Cooke ei ddal gan Toby Roland-Jones ar 41 wrth ergydio’n syth oddi ar y troellwr coes Dawid Malan, a Morgannwg yn 227-5.
Heb ychwanegu at y cyfanswm, cafodd Graham Wagg ei fowlio gan Tim Murtagh wrth i Forgannwg golli eu chweched wiced. Collodd Morgannwg eu seithfed wiced ar 230 wrth i’r un cyfuniad weithredu unwaith eto.
Collodd Ingram ei wiced am 85, wrth iddo gael ei ddal ar y ffin gan Eoin Morgan oddi ar fowlio Fuller ac roedd hi’n edrych i bob pwrpas fel pe bai hi ar ben ar Forgannwg erbyn hynny. Dilynodd Dean Cosker yn fuan wedyn, wedi’i fowlio gan Toby Roland-Jones, ac fe sicrhaodd Swydd Middlesex y fuddugoliaeth wrth i Andrew Salter gael ei fowlio gan Fuller am 8.