David Jones AS Llun: Parliament.tv
Fe allai’r gêm rhwng Cymru a Lloegr ym mhencampwriaeth Ewro 2016 fod yn darged ar gyfer ymosodiad brawychol posib, yn ôl cyn-Ysgrifennydd Cymru.
Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol David Jones wedi mynegi pryderon am y peryglon posib y tu hwnt i’r ofnau am hwliganiaeth, gan mai dyma fydd y gêm gyntaf rhwng dau dîm o Brydain.
Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr pêl-droed Cymru a Lloegr deithio i Lens ar gyfer y gêm ddydd Iau.
Mae Llywodraeth San Steffan eisoes wedi cadarnhau heddiw y bydd rhagor o blismyn o’r DU yn cael eu hanfon i Ffrainc ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn dilyn gwrthdaro rhwng cefnogwyr Lloegr a Rwsia yn Marseille dros y penwythnos.
Wrth siarad yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma bu David Jones yn canmol ymddygiad cefnogwyr Cymru yn ystod y gêm gyntaf yn erbyn Slofacia yn Bordeaux.
Dywedodd AS Gorllewin Clwyd wrth yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May: “Rydych chi wedi son am y mesurau sy’n cael eu rhoi mewn lle, ynghyd a’r heddlu yn Ffrainc, cyn y gêm yn Lens.
“Ond o ystyried mai dyma fydd y gêm gyntaf rhwng dau dîm o Brydain, ydych chi’n rhannu fy mhryder y gallai hyn fod yn darged posib ar gyfer bygythiad brawychol ac a fedrwch chi ddweud a yw’r gwasanaethau diogelwch yn ystyried hyn?”
Dywedodd Theresa May bod Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns wedi “trafod gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ddoe ynglŷn â’r materion yma.”
Ychwanegodd bod lefel y bygythiad yn Ffrainc yn parhau’n ddifrifol ond “fe alla’i sicrhau’r Tŷ bod yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch yma yn y DU yn gweithio’n agos gyda’n cyfoedion yn Ffrainc mewn cysylltiad â’r bygythiad brawychol rydym i gyd yn ei wynebu.”
‘Cymryd cyfrifoldeb’
Mae Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros Orllewin Caerfyrddin a Dinefwr, wedi galw ar Gymdeithas Bêl-droed Lloegr i “ddechrau cymryd cyfrifoldeb” am weithredoedd carfan fechan o gefnogwyr Lloegr.
Dywedodd wrth Theresa May ei fod yn “bryderus iawn am yr hyn allai ddigwydd o fewn y 48 awr nesaf pan fydd cefnogwyr Cymru ynghanol carfan fechan o hwliganiaid o Rwsia a Lloegr.
“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth y DU wedi cynghori cefnogwyr i beidio teithio i Lens heb docyn ac i beidio aros yn Lille.
“A fyddwch chi’n galw ar Gymdeithas Bêl-droed Lloegr i wneud datganiad tebyg ac i ddechrau cymryd cyfrifoldeb am weithredoedd carfan fechan o’i chefnogwyr?”
Atebodd Theresa May drwy ddweud bod neges glir wedi’i chyfleu gan gapten Lloegr Wayne Rooney a rheolwr Lloegr Roy Hodgson sef eu bod am i’w cefnogwyr “ymddwyn yn briodol a pheidio â bod yn gysylltiedig â thrais o unrhyw fath.”