Mae llanc 16 oed ymhlith chwech o gefnogwyr pêl-droed Lloegr sydd wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â’r gwrthdaro ym Marseille ar ddechrau pencampwriaeth Ewro 2016, yn ôl erlynwyr yn Ffrainc.
Mae cefnogwr pêl-droed 50 oed o Loegr mewn cyflwr difrifol gydag anafiadau i’w ymennydd ar ôl ymosodiad arno gan gefnogwyr Rwsia oedd yn cario bariau metel.
Er gwaethaf ymddygiad rhai o gefnogwyr Rwsia, a oedd wedi gwrthdaro gyda chefnogwyr Lloegr yn y Stade Velodrome ar ôl y gêm nos Sadwrn rhwng Lloegr a Rwsia, nid oes unrhyw gefnogwyr o Rwsia wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r trais.
Dywedodd prif erlynydd Marseille, Brice Robin, bod y llanc yn cael ei gadw yn y ddalfa.
Yn ol Brice Robin roedd tua 150 o hwliganiaid o Rwsia yn gysylltiedig â’r trafferthion ond dim ond dau gefnogwr sydd wedi cael eu harestio hyd yn hyn, a hynny am iddyn nhw fynd ar y cae pêl-droed.
Ychwanegodd bod 12,000 o gefnogwyr Rwsia wedi teithio i Marseille ar y trên.
Mae UEFA, y corff sy’n rheoli’r gêm yn Ewrop, wedi rhybuddio awdurdodau pêl-droed y ddwy wlad na fyddent yn oedi rhag cyflwyno sancsiynau pellach gan gynnwys gwaharddiadau o’r bencampwriaeth os yw ymddygiad o’r fath yn parhau.
Cefnogwr o Ogledd Iwerddon wedi marw
Yn y cyfamser mae cefnogwr pêl-droed o Ogledd Iwerddon wedi marw ar ol disgyn yn Nice yn dilyn buddugoliaeth Gwlad Pwyl yn y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon.
Roedd Darren Rodgers, 25, o Ballymena wedi syrthio 26 troedfedd dros rwystr ar y promenâd gan lanio ar y traeth tua 2yb ddydd Llun, meddai’r heddlu.