Gwefannau .cymru a .wales
Wedi i Gymru sicrhau ei buddugoliaeth gyntaf ym mhencampwriaethau Ewro 2016 dros y penwythnos, mae un cwmni’n credu y bydd mwy fyth o gefnogwyr a busnesau’n dathlu eu Cymreictod ar-lein.
Yn ôl y cwmni sy’n gyfrifol am yr enwau parth .cymru a .wales, maen nhw’n disgwyl y bydd mwy o bobol yn cofrestru i ddefnyddio’r enwau ar gyfer eu gwefannau neu eu cyfeiriadau e-bost yn ystod y bencampwriaeth.
Esboniodd y cwmni eu bod wedi gweld cynnydd o 10% yn y cofrestriadau adeg Cwpan Rygbi’r Byd y llynedd.
‘Neidio at y cyfle’
Mae’r enwau parth .cymru a .wales wedi bod yn weithredol am bron i ddwy flynedd bellach gyda mwy na 20,000 wedi cofrestru i’w defnyddio.
Mae ffigurau hefyd yn dangos fod .cymru a .wales ymhlith rhestr o ddeg uchaf o’r parthau daearyddol sy’n cael eu defnyddio mwyaf ar draws Ewrop.
Un o’r sefydliadau cyntaf i fabwysiadu’r enw parth Cymreig oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac, yn ôl y Prif Weithredwr Jonathan Ford, “fe neidion ni at y cyfle o atgyfnerthu’n hunaniaeth Gymreig trwy ddefnyddio’r enwau parth newydd.
“Roeddwn i eisiau manteisio ar bob cyfle i ddangos enw Cymru a Wales i’r byd gael ei weld.”