Ymadd y tu fewn a'r tu allan i'r stadiwm ym Marseille nos Sadwrn
Mae UEFA wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dechrau camau disgyblu yn erbyn Rwsia yn dilyn ymladd rhwng cefnogwyr y tîm pêl-droed a chefnogwyr Lloegr ym Marseille yn ystod Ewro 2016.
Mae’r cyhuddiadau’n cynnwys ymladd, ymddygiad hiliol a chynnau tân gwyllt.
Daeth cadarnhad gan UEFA nad ydyn nhw’n bwriadu cosbi Cymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Bydd y gosb yn cael ei phennu yn dilyn cyfarfod disgyblu ddydd Mawrth.