Y Frenhines (ar y dde) yn y Senedd ddydd Mawrth (llun: Senedd TV - Printscreen)
Mae Llundain wedi bod yn ferw o ddathliadau brenhinol heddiw wrth i seremoni flynyddol Cyflwyno’r Faner (Trooping the Colour) nodi penblwydd y Frenhines yn 90 oed.

Roedd miloedd yn eistedd ar hyd The Mall wrth i’r Frenhines a Dug Caeredin gyrraedd yn hen gerbyd y Frenhines Victoria.

Yn eu dilyn ar gefn ceffylau roedd y tywysogion Charles a William a’r dywysoges Anne yn rhinwedd eu swyddi fel cyrnols brenhinol.

Mae’r Frenhines wedi derbyn y saliwt brenhinol yn y seremoni hon bob blwyddyn ers 1951 ac eithrio 1955 pryd roedd holl reilffyrdd Prydain ar streic. Roedd yno’n cynrychioli ei thad, y brenin George VI yn 1951, flwyddyn cyn iddi ddod i’r orsedd.