Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am yrrwr cerbyd ar ôl i gerddwr gael ei ladd mewn gwrthdrawiad ar gyrion Wrecsam.

Mae’n ymddangos bod Gary MacDonald Graham, 57 oed o Borras, yn cerdded ar hyd ffordd gyswllt yr A534 gerllaw Clwb Golff Wrecsam pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ychydig wedi hanner nos, nos Iau.

Fe fu farw yn y fan a’r lle.

Mewn datganiad, mae ei deulu wedi talu teyrnged i’r cyn-filwr.

“Roedd yn dad, brawd, taid, ewythr a ffrind annwyl a fydd yn cael ei golli’n fawr gan bawb a oedd yn ei adnabod. Mae bellach yn ôl yng nghwmni ei wraig Sian Graham, ei gariad cyntaf.”

Meddai’r Prif Arolygydd Darren Wareing: “Dw i’n apelio ar i yrrwr y cerbyd ddod ymlaen. Dw i hefyd yn apelio ar i unrhyw dyst a allai fod o gwmpas ar y pryd neu a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi cyfeirnod U084673.”