(llun: PA)
Mae Jeremy Corbyn yn ymgyrchu yn Aberdeen i geisio perswadio cefnogwyr Llafur i bleidleisio o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd nad oes ganddo “frwdfrydedd anferthol” dros yr Undeb Ewropeaidd, ond ei fod 70-75% o blaid aros.
“Dw i’n credu bod hwn yn benderfyniad ymarferol inni ei gymryd er mwyn cael gwell amodau ar draws yr holl gyfandir i bawb,” meddai.
Daw ei sylwadau ar ôl i arolwg barn yn yr Independent heddiw awgrymu bod Brexit 10 pwynt ar y blaen – 55% o gymharu â 45% o blaid aros.
Mae hyn yn cymharu â 51% i 49% o blaid Brexit fis yn ôl.
Yn ôl yr arolwg, mae 56% o’r bobl a bleidleisiodd i’r Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol y llynedd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, o gymharu â 44% dros Brexit. Ar y llaw arall, mae mwyafrif mawr – 62% – o’r rhai a bleidleisiodd dros y Torïaid o blaid Brexit.