(llun: PA)
Mae dyfodol Prydain fel canolfan flaenllaw mewn ymchwil gwyddonol yn cael ei fygwth gan ymgyrchwyr naïf a dibrofiad Brexit.

Dyna yw rhybudd 13 o enillwyr gwobrau gwyddonol Nobel mewn llythyr yn y Daily Telegraph heddiw.

Mae’r gwyddonwyr byd-enwog yn cynnwys yr Athro Peter Higgs, a chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad yr hadron collider yn Berne, yr arloeswr graphene Syr Kostya Novoselov a’r genetegydd Syr Paul Nurse.

Yn ôl y gwyddonwyr, byddai Prydain yn colli cyllid, dylanwad byd-eang a chyfleoedd i fanteisio ar gronfa o arbenigedd os bydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Er ein bod yn ynys, allwn ni ddim bod yn ynys mewn gwyddoniaeth,” meddai’r gwyddonwyr. “Mae bod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn dda i wyddoniaeth Prydain ac mae hynny’n dda i Brydain.”

Dangosodd arolwg diweddar fod 83% o wyddonwyr Prydain o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.