Mae Llywodraeth Prydain yn ystyried pasio ddeddfwriaeth “frys” er mwyn caniatau i bobl gofrestru ddydd Mercher er mwyn cael pleidleisio yn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron ei fod yn gobeithio ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru ar ôl i broblemau technegol olygu nad oedd modd i filoedd o bobol gofrestru cyn canol nos neithiwr.

Mae Cameron wedi annog pobol ar Twitter i barhau i fynd i’r wefan i gofrestru, gan ychwanegu fod “trafodaethau brys” gyda’r Comisiwn Etholiadol yn parhau.

Eglurodd yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog y bore ma ei fod yn awyddus i’r bobol hynny oedd wedi cofrestru neithiwr a’r rheiny sy’n parhau i gofrestru heddiw gael yr hawl i bleidleisio.

‘Annerbyniol’

 

Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, hefyd wedi galw am ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn y refferendwm.

Mynodd Leanne Wood na ddylid gwadu neb eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio gan annog Llywodraeth y DU i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau fod pawb sy’n dymuno pleidleisio yn y refferendwm yn medru gwneud hynny.

Dywedodd Leanne Wood: “Mae’n annerbyniol fod miloedd o bobl wedi methu a chofrestru i bleidleisio neithiwr yn sgil gwall technegol ar wefan y Llywodraeth.

“Bydd y refferendwm Ewropeaidd ar Fehefin 23 yn benderfyniad pwysig. Ni ddylid gwadu neb eu hawl ddemocrataidd i bleidleisio.

“Dylid ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i wneud yn iawn am fethiant y system.”