Llun: Clive Gee/PA Wire
Mae pwyllgorau San Steffan wedi clywed honiadau bod perchennog BHS wedi bygwth lladd y prif weithredwr yn dilyn ffrae tros drafodion ariannol.

Clywodd y pwyllgorau busnes a phensiynau fod Dominic Chappell, oedd wedi prynu’r cwmni gan Syr Philip Green am £1, yn “gelwyddgi” o’r radd flaenaf oedd “â’i fysedd yn y til”.

Mae cyn-ymgynghorydd ariannol y cwmni, Michael Hitchcock wedi dweud mai elwa’n ariannol ac yn bersonol oedd unig gymhelliad Chappell.

Mae’r pwyllgorau seneddol yn ymchwilio i’r amgylchiadau a arweiniodd at fethiant y cwmni wythnos ddiwethaf.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Darren Topp fod Chappell wedi derbyn taliad gwerth £1.8 miliwn ar ôl i BHS gael ei werthu, ynghyd â £7 miliwn ychwanegol pan gafodd swyddfeydd eu gwerthu.

Dywedodd Topp fod Chappell wedi bygwth ei ladd pan benderfynodd e gwestiynu trosglwyddiad ariannol gwerth £1.5 miliwn o arian y cwmni i Sweden.

Aeth y cwmni i’r wal yr wythnos diwethaf ac fe gafodd 11,000 o swyddi eu colli.

Dywedodd Green wrth werthu’r cwmni fod y cyfrifoldeb am bensiynau yn ei ddwylo yntau, Arcadia a BHS – ond mae ansicrwydd o hyd am werth hyd at £571 miliwn o bensiynau sydd heb eu diogelu.

Clywodd y pwyllgorau fod Chappell ar gwch yn y Bahamas pan aeth y cwmni i’r wal, er iddo honni ei fod yn cael llawdriniaeth ar ei lygaid ar y pryd.

Mae Dominic Chappell wedi ymddiheuro am fethiant BHS gan ddweud ei fod wedi gwneud “popeth posib” i achub y cwmni.