Mae dyn 25 oed wedi ymddangos gerbron llys heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio gyrrwr tacsi.

Mae Kingsley Harvey, o Leytonstone, dwyrain London, wedi’i gadw yn y ddalfa wedi’r gwrandawiad yn Llys Ynadon Thames heddiw. Mae wedi’i gyhuddo o saethu Abdi Gutale, 24, fis diwetha’. Bu farw Mr Gutale wedi iddo gael ei daro wrth yrru ei gerbyd Vauxhall Zafira yn ystod oriau mân Mai 14.

Mae disgwyl i Kingsley Harvey ymddangos gerbron Llys yr Old Bailey ddydd Mawrth nesa’, Mehefin 7.

Mae pedwar dyn arall wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac maen nhw wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymhwiliadau’r heddlu’n parhau.

Mae disgwyl i ddau ddyn, 19 oed a 31 oed, ymddangos gerbron llys yn gynnar ym mis Gorffennaf. Mae dyn 21 oed a dyn 22 oed wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth tan ddyddiad diweddarach ym mis Gorffennaf.