Joshua Lea (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru yn apelio, wedi i fachgen 13 oed fynd ar goll yn Abertawe.

Does neb wedi gweld Joshua Lea o Waunarlwydd ers 3.45yp ddydd Gwener, Mehefin 3. Bryd hynny, roedd yng nghanol dinas Abertawe, ger canolfan hamdden a nofio LC.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sy’n gwybod am ei hynt a’i helynt, i gysylltu ar y rhif 101.